Siarter Cydraddoldeb Hiliol
Ym mis Ebrill 2022 ymunodd Prifysgol Bangor â Siarter Cydraddoldeb Hiliol Advance HE. Mae ein taith tuag at ddod yn Brifysgol wrth-hiliol fel rhan o'r Siarter Cydraddoldeb Hiliol yn gofyn am ymrwymiad parhaus ac adnoddau ymroddedig. I’r perwyl hwn, rydym wedi creu Swyddog Cydraddoldeb parhaol ychwanegol i arwain y gwaith hwn a phenodwyd Danielle Williams i’r rôl hon ym mis Hydref 2022. Bydd gwybodaeth am ein taith Siarter Cydraddoldeb Hiliol yn parhau i gael ei diweddaru. Yn y cyfamser, dyma ein llythyr ymuno.