Prifysgol Bangor fel lleoliad ffilmio
Mae gan Brifysgol Bangor ystâd amrywiol o ran adeiladau a phensaernïaeth. O ysblander eiconig Prif Adeilad y Celfyddydau i Barc Gwyddoniaeth modern M-SParc, a phopeth yn y canol, megis strwythurau concrid enfawr – nid yw’n syndod fod ein lleoliadau wedi ymddangos ar y sgrîn fach a’r sgrîn fawr fel ei gilydd dros y blynyddoedd.
O blith y cynyrchiadau diweddaraf a ffilmiwyd yn y Brifysgol, ceir:
- Craith / Hidden (S4C, BBC a dosbarthwyr rhyngwladol) – drama dditectif ddwyieithog a ffilmiwyd ar leoliad ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau ac ar safle Stryd y Deon.
- Rownd a Rownd (opera sebon ar S4C) – adeiladau amrywiol, yn cynnwys Prif Adeilad y Celfyddydau, Ystafell Ddarllen Shankland (y llyfrgell) a’n Neuaddau Preswyl.
- The Feed (Amazon Prime, 2019) – cyfres 10-pennod wedi ei gosod mewn dyfodol llwm gyda rhwydo data a mewnblaniadau ymennydd. Golygfeydd mewnol ac allanol wedi eu ffilmio ar leoliad yn M-SParc.
- The Voyage of Doctor Dolittle (2020) – Yn cynnwys actorion megis Robert Downey Jr a Rami Malek, cafodd golygfeydd o’r ffilm enfawr hon eu ffilmio ar gaeau chwarae y Brifysgol a darparwyd gofod ar yr ystâd ar gyfer cerbydau ac offer y cynhyrchiad.
Gall Prifysgol Bangor gydlynu cynyrchiadau teledu a ffilm o bob math ac yn ogystal â natur amlbwrpas ein hystâd ysblennydd, gallwn hefyd gynnig:
- Llety ar gyfer criwiau ffilmio
- Pwll eang o fyfyrwyr talentog i weithio fel Artistiaid Cefndirol, ar raglenni interniaeth neu ar leoliadau profiad gwaith
- Arbenigeddau Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau y Brifysgol a’r potensial ar gyfer cydweithio
Ewch ar rithdaith o ystâd amrywiol y Brifysgol yma
Am fwy o wybodaeth ac i drafod ceisiadau ffilmio, cysylltwch â Swyddfa'r Wasg press@bangor.ac.uk