Materion Cyhoeddus
Mae'r tîm Materion Cyhoeddus yn gyfrifol am hyrwyddo'r Brifysgol trwy nifer o sianelau cyfathrebu i wleidyddion a gweision sifil lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae'r tîm yn gyfrifol yn benodol am yr agweddau canlynol:
- Cynnal cyswllt rheolaidd â gwleidyddion, gweision sifil, staff awdurdodau lleol a chynrychiolwyr cyrff rheoleiddio i'w briffio ar waith y Brifysgol
- Monitro cwestiynau a dadleuon Seneddol, Pwyllgorau Dethol a gwybodaeth gan lywodraethau Cymru a'r DU a chyrff eraill sy'n sôn am y Brifysgol, ac ymateb fel sy'n briodol
- Cydlynu ymweliadau â'r Brifysgol gan weinidogion y llywodraeth, seneddwyr a chynrychiolwyr llywodraethau cartref a rhyngwladol megis Llysgenhadon ac Uwch-Gomisiynwyr
- Darparu cyngor ar faterion yn ymwneud â'r llywodraeth a’r senedd
- Gweithio'n agos â staff cyfathrebu sydd wedi eu lleoli mewn gwahanol rannau o'r Brifysgol i sicrhau bod gwybodaeth, adnoddau ac arfer gorau yn cael eu rhannu
- Darparu cyngor a chynllunio cyfathrebu ar gyfer materion o bwys ledled y Brifysgol
- Ysgrifennu cylchlythyrau, papurau briffio a datganiadau i'r wasg
- Darparu rheolaeth dros y cyfryngau a gweithgareddau cyhoeddusrwydd eraill
- Mynychu neu drefnu cynrychiolaeth ar ran y Brifysgol mewn digwyddiadau gwleidyddol
- Sefydlu a chynnal sianelau cyfathrebu dwy-ffordd gyda chyrff a rhanddeiliaid swyddogol perthnasol