Amgylchedd “Dosbarth Cyntaf” Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn parhau i gryfhau ei pherfformiad amgylcheddol. Yn dilyn archwiliad annibynnol trylwyr o’i pholisïau a’i dulliau gweithredu, mae’r Brifysgol wedi llwyddo i gyrraedd Lefel 4 Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd, sydd yn dipyn o gamp.
Mae hyn yn adeiladu ar y Lefel 3 y mae’r Brifysgol wedi llwyddo i’w chyrraedd am y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae’n garreg filltir o bwys ar y llwybr tuag at nod y Brifysgol o gyrraedd Lefel 5 – Gwobr uchaf y Ddraig Werdd, ac ennill tystysgrif ISO14001. Yn ogystal â chyflawni’r gamp aruthrol hon, mae’r Brifysgol hefyd wedi cadw’i safle ‘Gradd Dosbarth Cyntaf’ yn y People & Planet's Green League 2011.
Meddai Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro John G. Hughes: “Rwyf wrth fy modd efo’r cynnydd rydym yn ei wneud yma ym Mangor wrth reoli ein heffaith ar yr amgylchedd. Cwta fis sydd ers i Undeb y Myfyrwyr ennill tair gwobr genedlaethol am eu hymdrechion amgylcheddol, ac mae’r llwyddiannau’n dangos yn glir ein bod yn cymryd ein cyfrifoldebau amgylcheddol o ddifrif fel Prifysgol.”
Ychwanegodd Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol y Brifysgol: “Mae hyn yn llwyddiant gwych. Mae llwyddo i aros ar y brig ymysg prifysgolion am ddwy flynedd yn olynol, tra hefyd yn codi safon ein perfformiad i Lefel 4 Safon y Ddraig Werdd yn dyst i’r gwaith tîm ac i ymroddiad staff, myfyrwyr ac aelodau’r gymuned leol wrth ofalu am ein hamgylchedd. Mae llawer i’w gyflawni eto, ac mae’r System Rheoli’r Amgylchedd sydd gennym yn amlinellu’r trywydd y byddwn yn ei ddilyn i wella’r amgylchedd ymhellach dros y blynyddoedd i ddod.”
Am ragor o wybodaeth am Berfformiad amgylcheddol y Brifysgol ewch at y tudalennau we
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2011