Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn dod i Fangor
Trysorydd Prifysgol Bangor i dderbyn MBE
Llongyfarchiadau i David Wyn Williams, DL, Trysorydd a Dirprwy Gadeirydd Prifysgol Bangor sydd i dderbyn MBE yn dilyn cyhoeddi Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn ddiweddar.
Bydd Mr Williams yn derbyn MBE am wasanaeth gwirfoddol i fyd busnes a'r gymuned yng Ngogledd Cymru.
Mae David Williams yn gyn Gyfarwyddwr Rhanbarth i Fanc HSBC yng Ngogledd Cymru. Mae hefyd yn dal nifer o swyddi cyfarwyddwr anweithredol. Ymysg gweithgareddau y tu allan i’r Brifysgol, mae David yn Gadeirydd Clwb Busnes Gogledd Cymru ac yn aelod o Fwrdd Coleg Llandrillo. Yn ogystal â'i swyddogaethau ar Gyngor y Brifysgol, mae David Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor Adnoddau ac yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol Ysgol Busnes Bangor. Mae hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol o’r Ganolfan Datblygu Rheolaeth Cyf.
Un o raddedigion Bangor mewn Coedwigaeth yn derbyn OBE yn Rhestr Anrhydeddau Pen- blwydd y Frenhines
Mae Paul Nolan, a raddiodd mewn Coedwigaeth ym Mangor yn 1986, ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Mersey Forest, gan weithio i Gyngor Gorllewin Sir Gaer a Dinas Caer.
Mae'r Mersey Forest Partnership wedi plannu dros wyth miliwn o goed - sy'n cyfateb i bum coeden newydd i bob person sy'n byw o fewn ardal y Goedwig. Mae'r cynllun hwn, a gafodd ei ganmol fel 'syniad llawn gweledigaeth' wedi dod â llu o fanteision amgylcheddol, iechyd ac economaidd i'w ganlyn. Mae ymroddiad Paul i'r gwaith wedi peri iddo dderbyn yr anrhydedd yma am ei 'gyfraniad i Goedwigaeth'.
http://www.merseyforest.org.uk/news/paul-nolan-receives-obe/
Llongyfarchiadau mawr Paul!
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2014