Archifdy Prifysgol Bangor ar raglen Cerys Matthews
Cofiwch wrando ar Radio 6 Music fore Sul rhwng 10.00 ac 1.00 (3ydd o Dachwedd 2013)
Bydd Dr Alun Withey, yr hanesydd meddygol o Brifysgol Exeter ar “Cerys on 6”
Bydd yn trafod hen rysetiau a meddygyniaethau, a ddaeth ar eu traws, yma ym Mangor, tra’n ymchwilio i’w lyfr , “Physick and the family. Health, Medicine and Care in Wales 1600-1750”.
Mae nifer o’r llyfrau rysetiau sy’n dyddio cyn 1750 yn cynnwys meddygyniaethau ar gyfer pobl ac anifeiliaid.
Yn ystod ei ymweliad â Bangor yr wythnos hon, dywedodd Dr Alun iddo ddarganfod nifer o rysetiau diddorol yn yr Archifdy a’i fod yn edrych ymlaen i’w rhannu â’r genedl ddydd Sul.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2013