Arddangos gwisgoedd o Tsieina
Yn dilyn lansiad llwyddiannus y Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn gynharach y flwyddyn academaidd hon, mae’r Sefydliad Confucius wedi dechrau ar raglen ddiddorol ac amrywiol o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am ddiwylliant Tsieineaidd.
Bydd gwisgoedd cenedlaethol Tsieineaidd yn cael eu harddangos yn Ystafell Ddysgu 5 Rathbone, Adeilad Rathbone, Ffordd y Coleg ddydd Iau 29 Tachwedd am 6.00.
Dillad traddodiadol grwpiau ethnig yw’r gwisgoedd cenedlaethol. Datblygwyd gwahanol fathau o wisgoedd traddodiadol ymhlith y lleiafrifoedd ethnig yn Tsieina oherwydd y gwahanol amgylcheddau byw a’r gwahanol ddiwylliannau. Han yw’r prif grŵp ethnig yn Tsieina, a hanfu yw eu gwisg draddodiadol genedlaethol. Cheongsam yw un o'r gwisgoedd traddodiadol ar gyfer y merched ac mae’n deillio o ddillad traddodiadol merched Manchu. Bu merched Han yn datblygu a gwella’r wisg hon yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif a chafodd ei dynodi fel un o'r gwisgoedd cenedlaethol gan lywodraeth Gweriniaeth Pobl Tsieina yn 1929. Ar ôl hynny, bu’r merched yn Shanghai a Beijing yn gwella dyluniad y wisg.
Mae yna 56 o grwpiau lleiafrifol yn Tsieina.
I gael rhagor o wybodaeth am yr agwedd hon ar ddiwylliant Tsieineaidd darllenwch erthygl ddiddorol yn newyddlen Canolfan Confucius
Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2012