Arddangosfa a thrafodaeth “Cymunedau Dwyieithog y Byd”
Bydd cyfle i ddysgu mwy am gymunedau dwyieithog eraill y byd mewn arddangosfa a thrafodaeth ar ddydd Mercher, 2 Tachwedd 2011 yn Stiwdio 1, Galeri, Caernarfon. Trefnir y digwyddiad “Cymunedau Dwyieithog y Byd” gan Ganolfan ESRC dros Ymchwil i Theori ac Ymarfer Dwyieithrwydd, ym Mhrifysgol Bangor fel rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithas yr ESRC. Bydd croeso i bawb a mynediad am ddim.
Bydd yr arddangosfa yn cynnwys adroddiadau o lygad y ffynnon gan siaradwyr o ieithoedd lleiafrifol ledled y byd ynghylch hawliau iaith, defnydd iaith mewn bywyd preifat a chyhoeddus ac unrhyw ymgyrchoedd cymunedol.
Gyda’r nos, cynhelir trafodaeth panel gyda siaradwyr y Fasgeg, Tibeteg, Lombardeg, Galisieg a Ndebele. Dan gadeiryddiaeth Bethan Jones Parry, caiff y gynulleidfa holi’r panelwyr, a bydd cyfle i bawb rannu syniadau ar sut i wneud y gorau o’n hieithoedd bach. Ceir hefyd sgwrs gan yr Athro Margaret Deuchar, y Dr Peredur Davies a Marika Fusser am ganlyniadau ymchwil y Ganolfan Ddwyieithrwydd yn ogystal â chwis ieithoedd bach.
Dyma raglen y diwrnod:
- 4-7pm: arddangosfa
- 6-7pm: bwffe
- 7-8.30pm: sgwrs a thrafodaeth panel
Bydd yr arddangosfa yn agored i bawb daro mewn, ond nifer cyfyngedig o lefydd sy ar gael ar gyfer y bwffe a’r drafodaeth. I gofrestru ar gyfer y noson, cysyllter â’r Ganolfan erbyn 17 Hydref trwy ffonio 01248 382559 neu e-bostio l.m.thomas@bangor.ac.uk.
Meddai’r Athro Margaret Deuchar, Cyfarwyddwr Canolfan ESRC dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor, sy’n trefnu’r digwyddiad:
“Bydd yr arddangosfa a’r drafodaeth yn gyfle unigryw i ddysgu mwy am wahanol gymunedau dwyieithog. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at rannu darganfyddiadau diweddaraf ein canolfan ymchwil â’r gynulleidfa.”
Aelodau’r panel fydd:
o Cadeirydd: Bethan Jones Parry
o Amaia Munarriz Ibarrola (Basgeg)
o Khenchen Lama Rinpoche (Tibeteg)
o Marco Tamburelli (Lombardeg)
o Helena Miguélez-Carballeira (Galisieg)
o Thando Stammers (Ndebele)
Cynhelir yr Ŵyl Gwyddorau Cymdeithas gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, a chynhelir hi o 29 Hydref tan 5 Tachwedd 2011. Gyda digwyddiadau gan rai o brif ymarferwyr y wlad ym maes gwyddor cymdeithas, mae’r Ŵyl yn dathlu’r gorau o’r ymchwil a wneir yng ngwledydd Prydain ym maes Gwyddor Cymdeithas, a’r modd y mae’n dylanwadu ar ein bywydau, yn gymdeithasol, yn economaidd ac yn wleidyddol – yn awr ac ar gyfer y dyfodol. Mae’r Ŵyl Gwyddorau Cymdeithas eleni â mwy na 130 o ddigwyddiadau creadigol a chymdeithasol, a gynhelir gyda’r bwriad o annog busnesau, elusennau, asiantaethau’r llywodraeth a myfyrwyr mewn ysgolion neu golegau i drafod, darganfod a dadlau materion cyfoes sy’n ymwneud â gwyddor cymdeithas. Mae datganiadau i’r wasg, yn rhoi manylion am rai o’r digwyddiadau amrywiol sydd i’w cynnal, ar gael yn ngwefan yr Ŵyl: www.esrcfestival.ac.uk. Erbyn hyn, mae modd ichi gael y diweddaraf am yr Ŵyl ar Twitter, gan ddefnyddio #esrcfestival.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Medi 2011