Arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru yn mynychu sesiwn ‘Labordy’ ym Mhrifysgol Bangor
Bydd deg ar hugain o academyddion a enwyd fel arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru yn mynychu sesiwn ‘Labordy’ Crwsibl Cymru ym Mhrifysgol Bangor ar Orffennaf 26 – 27 2012.
Menter yw Crwsibl Cymru a gyllidir gan Grŵp Dydd Gwyl Dewi a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i gefnogi rhaglen datblygu broffesiynol ac arweinyddiaeth i arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru. Mae’r drydedd sesiwn labordy hon yn gael ei chynnal ar ran Crwsibl Cymru gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth, yn Neuadd Hugh Owen Prifysgol Bangor.
Bydd 30 o ymchwilwyr dethol o Brifysgolion Grwp Dydd Gwyl Dewi yng Nghymru (sef Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Morgannwg, Abertawe) yn dod at ei gilydd ar gyfer yr olaf o’r tri gweithdy deuddydd dwys. Mae’r gweithdai’n cynnwys siaradwyr gwadd ysbrydoledig, seminarau, sesiynau sgiliau a thrafodaethau anffurfiol.
Mae’r Athro David Shepherd, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil a Menter ym Mhrifysgol Bangor, wedi egluro ei frwdfrydedd dros raglen Crwsibl Cymru, gan ddweud:
“Rydw i’n credu ers talwm bod cydweithio rhwng ymchwilwyr ac entrepreneuriaid ym mhob disgyblaeth yn gwbl hanfodol i arloesi llwyddiannus. Mae Crwsibl Cymru’n enghraifft wych o’r dull hwn ar waith ac mae canlyniadau’r rhaglen gyntaf llynedd yn dangos bod y dull cyffrous hwn o ymdrin ag ymchwil a datblygu yng Nghymru'n creu’r arweinwyr a’r arloeswyr a fydd yn helpu i sicrhau dyfodol economi wybodaeth Cymru.”
Am fanylion pellach am Grwsibl Cymru, gweler www.welshcrucible.org.uk
Dyddiad cyhoeddi: 25 Gorffennaf 2012