At arweinwyr ac arloeswyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru Crwsibl Cymru 2012
Mae Crwsibl Cymru yn rhaglen ddatblygu broffesiynol ac arweinyddiaeth bwysig i arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru.
Beth yw Crwsibl Cymru?
Cyllidir Crwsibl Cymru gan y grŵp Gŵyl Ddewi o sefydliadau addysg uwch, a bydd yn dod â deg ar hugain o ymchwilwyr at ei gilydd i edrych sut y gallant gydweithio i fynd i’r afael â’r sialensiau ymchwil sy’n wynebu Cymru ar hyn o bryd.
Cynhelir Crwsibl Cymru 2012 dros dri gweithdy dwys deuddydd yr un (preswyl), a fydd yn cynnwys siaradwyr gwadd ysbrydoledig, seminarau, sesiynau sgiliau a thrafodaethau anffurfiol.
Bydd Crwsibl Cymru yn eich helpu i wneud y canlynol:
- datblygu rhwydwaith o gyfoedion yn y gymuned ymchwil,
- ffurfio cysylltiadau â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, a’r cyfryngau Cymreig;
- gwella eich effeithiolrwydd yn eich sefydliad a thu hwnt iddo;
- sicrhau bod eich ymchwil yn cael mwy o ddylanwad;
- dysgu am wahanol feysydd ymchwil a meithrin datblygiad personol a gyrfa.
Crwsibl Cymru – Rhaglen 2012
- 31ain Mai a 1af Mehefin, cynhelir gan Brifysgolion Caerdydd a Morgannwg yng Nghaerdydd
- 28ain a 29ain Mehefin, cynhelir gan Brifysgol Abertawe yn Abertawe
- 26ain a 27ain Gorffennaf, cynhelir gan Brifysgolion Aberystwyth a Bangor ym Mangor
Mae’n rhaid i gyfranogwyr roi addewid i ddod i bob un o’r tri gweithdy fel amod gwneud cais.
Pwy ddylai wneud cais?
Gwahoddir ceisiadau gan ymchwilwyr addawol iawn o bob disgyblaeth
- gyda thair blynedd o brofiad ymchwil ôl-ddoethurol (neu gyfwerth); (e.e. darlithwyr, cymrodyr academaidd, cymrodyr ymchwil, uwch gymrodyr ymchwil)
- sy'n gweithio mewn SMEs/cwmnïau deillio Cymreig neu ym Mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Morgannwg neu Abertawe neu
Dim ond 30 o ymgeiswyr ar draws Cymru a ddewisir i gymryd rhan yn Crwsibl Cymru 2012. Adolygir ceisiadau gan Banel Dewis wedi’i gynnull yn arbennig.
Crynodeb o’r Dyfarniad
Mae cyllid a gafwyd gan y grŵp Gŵyl Ddewi yn golygu y gall ymgeiswyr llwyddiannus gymryd rhan yn y rhaglen hon am ddim.
Telir holl gostau preswyl, yn cynnwys llety a bwyd, a chostau’r holl sesiynau yn y tri Labordy Crwsibl, dros holl ymgeiswyr llwyddiannus y Crwsibl. Telir costau teithio rhesymol yn ôl ac ymlaen o bob Labordy Crwsibl.
Am wybodaeth bellach am Grwsibl Cymru a Rhaglen 2012 ewch i www.welshcrucible.org.uk Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn y fideo ar wefan NESTA: http://www.nesta.org.uk/crucible
Meini Prawf y Broses Ddewis
Dechrau /canol gyrfa – o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-ddoethurol neu gyfwerth (gofynnol)
Rhagoriaeth mewn ymchwil a meddwl yn greadigol wrth ymdrin â’u gyrfa
Awydd i wneud y canlynol:
- Sicrhau bod eich ymchwil yn cael mwy o effaith
- Diddordeb mewn ymwneud â’r cyhoedd, rhyngweithio â’r cyfryngau a gwneuthurwyr polisi
- Datblygu rhwydwaith o gyfoedion mewn ymchwil
- Gweithio’n rhyngddisgyblaethol
Deall cenhadaeth Crwsibl Cymru ac ymroddiad iddo:
- Diddordeb mewn cydweithio rhyngddisgyblaethol, a phrofiad o hynny yn ddelfrydol
- Ymwneud â’r cyhoedd a throsglwyddo gwybodaeth
- Datblygu sgiliau ac agweddau ar gyfer ymchwil arloesol
- Meddwl yn greadigol wrth ymdrin â'u gyrfa
Diddordebau mewn gweithgareddau eraill ym myd gwaith y tu allan i ymchwil, e.e. ymwneud â’r cyhoedd, ymwneud â chymdeithasau dysgedig neu grwpiau pwnc.
Cysylltwch a Penny Dowdney (Swyddfa Ymchwil ac Arloesi) os oes mae gennych ddiddordeb mewn gwneud cais.
p.j.dowdney@bangor.ac.uk : x2266
Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2012