Ateb i fethianau cyfalafiaeth?
Yn ystod wythnos gyntaf Ebrill bydd rhai staff a myfyrwyr o raglen Datblygu Cymuned, Ysgol Dysgu Gydol Oes, yn ymweld â Marinaleda yn Andalusia, Sbaen.
Trefnwyd y daith gan Cymru-Cuba a thelir amdani gan y cyfranogwyr. Nod yr ymweliad yw archwilio ffurfiau amgen o drefnu bywyd cymunedol. Mae yna le i ddysgu bob tro, ac i gymunedau mewn argyfwng mae'r angen i ddarganfod ffurfiau eraill o drefnu bywyd yn hynod o bwysig.
Caledi ofnadwy oedd hanes Marinaleda fel gweddill Andalusia tlawd. Dan arweinyddiaeth maer carismatig, gwnaeth y pentref datgan ei hun yn iwtopia gomiwnyddol a chymerodd tir amaeth er mwyn darparu digon i bawb a newid eu byd. Gall y pentref a'i gweithrediadau darparu'r ateb i fethiannau cyfalafiaeth?
http://www.marinaleda.com
http://www.theguardian.com/world/2013/oct/20/marinaleda-spanish-communist-village-utopia
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2014