Athro a Myfyriwr ar Restr Fer Gwobrau Theatr
Llongyfarchiadau calonnog i’r Athro Angharad Price a Llŷr Titus, myfyriwr PhD yn Ysgol y Gymraeg, sydd newydd eu henwi ar Restr Fer Gwobrau Theatr Cymru 2016.
Enwebwyd Angharad am ei drama lwyfan gyntaf, Nansi, a berfformiwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn yn Awst 2015.
Enwebwyd Llŷr am ei ddrama hir Drych a berfformiwyd gan Gwmni’r Frân Wen.
Y mae rhai o actorion y ddau gynhyrchiad hefyd wedi eu henwebu am wobrau.
Enwebwyd Melangell Dolma am ei rhan yn Nansi a Gwenno Hodgkins am ei rhan yn Drych yng nghategori’r Perfformiad Gorau yn y Gymraeg (Benyw), a Bryn Fôn am ei ran yn Drych yng nghategori’r Perfformiad Gorau yn y Gymraeg (Gwryw).
Cyhoeddir yr enillwyr terfynol mewn noson wobrwyo yn Theatr Sherman, Caerdydd ar 30 Ionawr.
Am fanylion pellach, ewch i:
http://www.walestheatreawards.com/
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2016