Athro o Fangor yn cael ei benodi’n Is-Gadeirydd Seafish
Mae ecolegydd môr, yr Athro Michel Kaiser o Brifysgol Bangor, wedi’i benodi’n Is- Gadeirydd bwrdd Seafish hyd Fawrth 2012.
Mae Seafish yn Gorff Cyhoeddus All-adrannol (Non-departmental Public Body neu NDPB), sy’n gweithio ar draws holl sectorau’r diwydiant bwyd môr i hybu bwyd môr cynaliadwy o ansawdd uchel.
Bydd yr Athro Kaiser, sydd hefyd yn bennaeth dros dro Ysgol Gwyddorau Eigion adnabyddus Prifysgol Bangor, yn cydweithio’n agos â’r Cadeirydd interim, John Whitehead.
Meddai’r Athro Kaiser am ei benodiad: “Bydd twf poblogaeth y byd yn rhoi pwysau cynyddol ar allu ein cefnforoedd i ddarparu ffynhonnell o brotein hanfodol o ansawdd uchel. Mae rheoli ein pysgodfeydd mewn modd cynaliadwy a chyfrifol o’r pwys mwyaf ac mae gan Seafish rôl allweddol i sicrhau y gall y diwydiant bwyd môr gyflawni’r her honno.”
Meddai Mr Whitehead: “Rwyf wrth fy modd bod Michel wedi’i benodi’n Is-Gadeirydd. Mae Michel eisoes wedi gwasanaethu fel aelod o’r bwrdd ers dros ddwy flynedd a daw â chyfoeth o wybodaeth am bysgodfeydd ac amgylchedd y môr gydag o.”
Mae ymchwil yr Athro Kaiser yn canolbwyntio ar effeithiau gweithgaredd dynol ar ecosystemau a chymunedau môr a sut mae pobl yn ymateb i fesurau rheolaeth a ddefnyddir i ffrwyno’r gweithgareddau hyn.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2010