Awduron rhyngwladol yn ymweld eto
Mae'r cysylltiad agos rhwng Ty Cyfieithu Cymru yn Llanystumdwy ac Ysgol y Gymraeg yn parhau. Ar ddiwedd 2012 daeth awdur a bardd o'r Ffindir, Harry Salmeniemmi, at y seminar Ysgrifennu Creadigol i drafod ac i ddarllen ei waith. Soniodd am anhawster bod yn fardd arbrofol mewn gwlad gymharol fach fel y Ffindir, am ddylanwad rhai o lenyddiaethau eraill Ewrop arno, a darllenodd rai o'i gerddi a oedd wedi eu gosod i gerddoriaeth gyfoes, yn ogystal a cherddi avant-garde a oedd yn gwneud defnydd creadigol o ofod gwag y ddalen wen er mwyn creu ystyr barddonol.
Ar ddechrau 2013 daeth y bardd a'r cyfieithydd o Rwmania, Emilia Ivancu, i roi peth o gefndir llenyddiaeth Rwmania i'r seminar Ysgrifennu Creadigol, gan drafod natur y sensro a fu ar lenorion y wlad am hanner can mlynedd dan y drefn Gomiwnyddol. Darllenodd hithau rai o'i cherddi a chyfieithiadau Saesneg ohonynt, gan gynnwys cerddi a luniodd yn ystod ei harhosiad diweddar yng Nghymru pan gafodd gyfle i ymweld ag Ynys Enlli.
Bydd y seminar Ysgrifennu Creadigol yn canolbwyntio ar farddoniaeth y semester hwn ac yn cynnwys darlith gan y bardd Emyr Lewis ar 22 Chwefror.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2013