Bangor a Pontio: Llwyddiant Byd-eang Bloomsday
Yn gynharach yr wythnos hon, fel rhan o ddigwyddiad rhyngwladol Global Bloomsday, cydweithiodd Pontio ag Ysgol Saesneg ac Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor i gynhyrchu perfformiad rhyfeddol o'r bennod 'Sirens' allan o'r nofel Ulysses gan yr awdur o Iwerddon, James Joyce. Roedd yn ddigwyddiad 24-awr oedd yn cynnwys darlleniadau byw o Ulysses gan dimau o 25 dinas, yn cynnwys Efrog Newydd, Sao Paolo, Tokyo, Llundain a Pharis, a ffrydiwyd y digwyddiad yn fyw ar y we. Cyhoeddwyd cynhyrchiad Bangor ar wefan Global Bloomsday fel un o uchafbwyntiau'r diwrnod. Ers hynny, mae'r perfformiad wedi bod yn boblogaidd iawn ac mae dros 800 o bobl ar draws y byd wedi ei wylio, mwy na sydd wedi gwylio perfformiad pob un ddinas arall, ar wahân i Ddulyn. Gellir gwylio’r perfformiad yma.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2013