Bangor i gynnal y Gystadleuaeth Ffug Lys Barn Genedlaethol Gymreig
Bydd Prifysgol Bangor yn croesawu myfyrwyr y gyfraith o ledled Cymru dros y penwythnos wrth iddi gynnal y Gystadleuaeth Ffug Lys Barn Genedlaethol Gymreig.
Bydd timau o Aberystwyth, Caerdydd, Abertawe, Prifysgol De Cymru a’r Brifysgol Agored yn teithio i Fangor i frwydro am y wobr fawreddog ar Ddydd Sul, 29 Mawrth.
Yn cynrychioli Ysgol y Gyfraith Bangor bydd Ali Haque a Jessica Isaacs. Byddent yn gobeithio ailadrodd llwyddiant Adam Gulliver ac Aaron Clegg, a gipiodd y wobr i Fangor yn 2014.
Cynhaliwyd y digwyddiad, a noddir gan LexisNexis, yn ystafell ffug lys barn newydd y Brifysgol. Cadeiriwyd y panel hyglod o farnwyr gan Syr Roderick Evans, sef y cyn-Farnwr Llywyddol dros Gymru. Hefyd ymysg y barnwyr bydd Adam Antoszkiw, Cyfreithiwr gyda Gray and Co LLP; Hefin Rees QC, Thirty Nine Essex Street Chambers; Hugh Davis, Uwchbartner, Carter Vincent LLP; Richard Williams, Cyfreithiwr gyda Gamlins; David Darlington, Cyfreithiwr gyda Fielding Porter LLP; Liam Ferris, Partner gyda Jones Robertson LLP; Geraint Edwards, Cyfreithiwr gyda Chyngor Sir Gwynedd; Joshua Simpson, Cyfreithiwr dan hyfforddiant gyda Swayne Johnson LLP; Barnwr David Williams, Barnwr yn y Tribiwnlys Uchaf; a Keith Wilding, Barnwr Tribiwnlys.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2015