Bangor yn arwain y sector fel y prif ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg
Mae’r ystadegau diweddaraf ynglŷn ag astudiaethau cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgolion Cymru wedi datgelu fod Bangor yn parhau i arwain y sector fel y prif ddarparwr gyda mwy yn astudio cyfran helaeth o’u cwrs yn Gymraeg yno nag yn unman arall.
Mae 34% o’r holl fyfyrwyr yn y wlad sy’n astudio 40 credyd neu fwy bellach yn astudio ym Mhrifysgol Bangor.
Meddai’r Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-Ganghellor (Cyfrwng Cymraeg a Chysylltiadau â’r Gymuned): “Astudir mwy o gredydau trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor nag yn unman arall yng Nghymru a bellach gellir astudio elfennau o bob pwnc academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg yma – o fodiwl unigol hyd at radd gyfan.”
“Mae’r datblygiadau hyn ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg wedi digwydd dros gyfnod maith a hoffwn ddiolch i’r holl staff sydd wedi bod yn ganolog i’r llwyddiant hwn dros y blynyddoedd.
“Wrth gwrs, yn ogystal â’r ddarpariaeth academaidd, mae bywyd cymdeithasol byrlymus ac amrywiol ar gael i fyfyrwyr ym Mangor trwy’r Gymraeg.
“Yn ogystal â hyn, mae Bangor hefyd yn Brifysgol ryngwladol iawn ei naws ac mae cyfleoedd i fyfyrwyr Cymraeg gwrdd, astudio a chymdeithasu gyda myfyrwyr o bob cwr o’r byd. Mae hyn yn rhan allweddol o’r profiad o fynychu Prifysgol, a rydym yn falch iawn o’r cyfleoedd a gynnigir i’n myfyrwyr ym Mangor i ehangu eu gorwelion.”
Dengys yr ystadegau hefyd fod y niferoedd cyfwerth â llawn amser sy’n astudio trwy’r Gymraeg ym Mangor yn sylweddol uwch nag unman arall, ac ar ei lefel uchaf erioed ym Mangor.
Nid yn unig bod twf cyffredinol yn y ddarpariaeth Gymraeg ar draws y Brifysgol, ond gwelwyd cynnydd trawiadol mewn meysydd lle mae’r ddarpariaeth yn gymharol newydd gan gynnwys Seicoleg, Gwyddorau Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd. Yn ogystal â hyn, mae 70% o holl staff Bangor â galluoedd yn y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2016