Bangor yr orau yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr mewn Ieithoedd Modern
Mae'r Ysgol Ieithoedd Modern ym Mangor wedi derbyn canlyniadau rhagorol yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr eleni, gan ddod yr orau yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr mewn Ieithoedd Ewropeaidd. Mae'r canlyniadau hefyd yn gosod yr Ysgol yn y deg uchaf o ran Ieithoedd Ewropeaidd ym Mhrydain.
Arolwg o oddeutu hanner miliwn o fyfyrwyr sy'n graddio o bob prifysgol yn y DU yw'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, sy'n rhoi'r adborth mwyaf cynhwysfawr am brofiad myfyrwyr ym mhob sefydliad.
Dywedodd Dr Anna Saunders, Pennaeth yr Ysgol, am yr arolwg: ‘Mae'r canlyniadau hyn yn dangos traddodiad hirsefydlog o ragoriaeth mewn addysgu ieithoedd modern ym Mangor, ac yn adlewyrchu'r lefelau uchel o ofal bugeiliol yn yr Ysgol ac ymroddiad i'r myfyrwyr. Rydym ni bob amser yn ceisio'n gorau i wrando ar lais y myfyrwyr, ac wedi gweithio ochr yn ochr â thîm o gynrychiolwyr myfyrwyr ymroddedig er mwyn ymateb i'w hanghenion lle bynnag bo'n bosib – y tu mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth.’
Mae canlyniadau Arolwg Boddhad Myfyrwyr yr Ysgol yn cael eu hadlewyrchu yng nghanlyniadau'r brifysgol yn gyffredinol, sydd hefyd yn ei gosod ar y blaen i brifysgolion eraill yng Nghymru, ac yn y 10 uchaf yn y DU - ochr yn ochr â phrifysgolion traddodiadol eraill fel Glasgow, Durham ac yn wir Rhydychen a Chaergrawnt hefyd.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2014