Byddwch Fentrus yn cynnal ‘Stori Entrepreneur’
Yn ddiweddar, bu myfyrwyr a staff Bangor yn mwynhau cyflwyniad gan banel o bedwar entrepreneur yn sôn am eu profiad yn dechrau a rhedeg busnes llwyddiannus a’r manteision a’r anfanteision o hunangyflogaeth ac entrepreneuriaeth.
Yr aelodau o’r panel oedd Ffion Llwyd-Jones o FLJ Media, Gaz Thomas o The Game Homepage, Rhys Mwyn o Recordiau Anrhefn ac Elliw Ellis-Davies o Atom PR. Roedd gan bob un ohonynt stori wahanol i’w hadrodd ond eu profiad cyffredin oedd bod eu hangerdd a’u hoffter o weithio yn ôl eu cyfarwyddyd eu hunain wedi arwain at greu syniad am fusnes. Mae pob un o’r cyflwynwyr yn Fodelau Rôl Dynamo – sef perchenogion busnes yng Nghymru sy’n rhoi sgyrsiau yn rhad ac am ddim i ddarpar entrepreneuriaid ifanc er mwyn rhoi blas iddynt am sut beth i'w bod yn eich bos eich hun.
Dywedodd Rhys Mwyn o Recordiau Anrhefn ‘.. mae gan bob un o fodelau rôl Dynamo stori wahanol i’w dweud – mae fy stori i am y diwydiant cerddoriaeth yn un eithaf anghonfensiynol felly rwyf yn rhan o hyn er mwyn ysbrydoli pobl. Y buddion i ni fel modelau rôl yw gwneud rhywbeth cadarnhaol, rhoi rhywbeth yn ôl ...
Meddai Ffion Llwyd-Jones, Cyfarwyddwr FLJ Media, bod ei gwaith fel model rôl Dynamo ‘.. yn waith amrywiol iawn. Rydym yn ei wneud achos ein bod eisiau rhoi rhywbeth yn ôl. Trwy gydol fy mywyd rwyf wedi cael mentoriaid sydd wedi fy helpu felly dyna beth rwyf i'n ei wneud trwy Dynamo’.
Yn dilyn y cyflwyniadau roedd y panel yn ateb cwestiynau gan aelodau o’r gynulleidfa - roedd gan lawer ohonynt uchelgais i ddechrau eu busnesau eu hunain a chawsant ambell fewnwelediad diddorol am weithio iddynt hwy eu hunain.
Mae ‘Stori Entrepreneur' yn un o gyfres o ddigwyddiadau sydd wedi eu trefnu gan y Project Byddwch Fentrus yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2011