Canlyniadau y Guardian League Tables 2019
Mae Prifysgol Bangor wedi ei gosod yn safle 47 o blith prifysgolion y DU, yn ôl y Guardian League Tables 2019, canlyniad sy’n ddiweddglo teilwng i flwyddyn llwyddiannus i’r Brifysgol.
Mae profiad y myfyrwyr o’u cwrs, yr addysgu a’r adborth a dderbynir ymhlith y prif elfennau sy’n sail i’r tablau, sydd yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth ar gyfer darpar fyfyrwyr. Mae’r prif dabl yn dynodi’r sgôr trydydd uchaf i Fangor am foddhad myfyrwyr, a’r chweched sgôr uchaf ar gyfer adborth. Mae hyn oll yn adlewyrchu pwyslais y Brifysgol ar ddarparu profiad ardderchog i’w myfyrwyr.
Bangor yw’r unig Brifysgol o Gymru i ennill Safon Aur, y safon uchaf posib, gan y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu Cenedlaethol (FfRhA). Nododd y FfRhA mai rhai o agweddau cryfaf y Brifysgol oedd ennyn diddordeb myfyrwyr, arferion addysgu ac asesu a chymorth wedi ei deilwra. Adlewyrchir yr agweddau hyn yn y Tabl Cynghrair diweddaraf yma.
Meddai’r Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol:
“Ein nod yw darparu addysg ardderchog ynghyd â phrofiad Prifysgol cynhwysfawr sydd yn canolbwyntio ar y myfyriwr. Mae ein llwyddiant diweddar wrth ennill Gwobrau WhatUni.com Student Choice am y Clybiau a Chymdeithasau gorau gan Undeb y Myfyrwyr a’r Llety Myfyrwyr gorau, ynghyd â’r ffaith i ni gael ein gosod yn y degfed safle am foddhad myfyrwyr yr Arolwg Cenedlaethaol o Fyfyrwyr, hefyd yn dyst i hyn.
Rwy’n falch o ganlyniadau’r Tablau Cynghrair diweddaraf. Mae tablau cynghrair yn darparu ffynhonnell o wybodaeth defnyddiol ar gyfer darpar fyfyrwyr.”
Mae Prifysgol Bangor yn ymddangos mewn 22 tabl yn ôl pynciau sydd yn cael eu dysgu yn y Brifysgol ac yn ymddangos o fewn y 30 uchaf yn achos 13 o’r rhestrau pwnc hynny.
Yn nodedig felly, mae Bangor yn ymddangos yn y pedwerydd safle yn y DU yn y tabl pwnc ar gyfer Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Bwyd, sy’n cynnwys wyth cwrs gradd a gynigir gan y Brifysgol, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer Gwyddor Chwaraeon, sydd yn cynnwys 13 llwybr gradd ym Mhrifysgol Bangor.
Yr 11 maes sy’n ymddangos o fewn y 30 uchaf ar gyfer pob pwnc yw Anatomeg a Ffisioleg, Cemeg, Gwyddorau Daear a Môr, Peirianneg, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Y Gyfraith, Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth, Cerddoriaeth, Nyrsio, Athroniaeth, Polisi a Gweinyddiaeth Gymdeithasol.
Am fwy o wybodaeth ac i weld y tabl yn ei gyfanrwydd, ewch i:
https://www.theguardian.com/education/ng-interactive/2018/may/29/university-league-tables-2019
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2018