Canolfan Brailsford ar ei newydd wedd
Ddydd Sadwrn yma (5 Gorffennaf) am 8.30 bydd y cyhoedd yn cael eu cyfle cyntaf i ymweld â’r Ganolfan Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor ar ei newydd wedd.
Bu’r Ganolfan Chwaraeon, sydd wedi ei hailenwi’n Ganolfan Brailsford, ynghau am y pythefnos ddiwethaf er mwyn cwblhau rhannau olaf project ailfodelu ac adnewyddu sydd wedi mynd ymlaen am flwyddyn ac wedi costio £2.5 miliwn.
Mae’r cyfleusterau chwaraeon ar eu newydd wedd yn cynnwys campfa ddeulawr newydd sbon, stiwdio aerobeg newydd, ystafelloedd newid cyhoeddus a chawodydd newydd a gwell, a llawr newydd i’r brif neuadd chwaraeon.
Mae hyn oll yn rhan o fuddsoddiad ehangach mewn cyfleusterau chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n cynnwys y cyfleusterau tenis a pêl-rwyd dan do newydd a gostiodd £.5 miliwn ac a agorwyd gan yr Arglwydd Coe fis Tachwedd diwethaf, ynghyd â chae artiffisial o safon uchel ar faes Nantporth Clwb Pêl-droed Dinas Bangor. Bydd hwn yn gartref i dimau myfyrwyr Prifysgol Bangor a nifer o glybiau cymunedol o fis Medi ymlaen.
Meddai Is-ganghellor Bangor, yr Athro John G Hughes: “Mae Bangor wedi buddsoddi miliynau o bunnau’n ddiweddar mewn datblygu cyfleusterau academaidd a chymdeithasol i fyfyrwyr sy’n gwneud y brifysgol yn lle hyd yn oed fwy deniadol iddynt”.
Am ragor o fanylion am y gwaith adnewyddu a rhai lluniau ohono’n cael ei wneud, edrychwch ar wefan y project.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Gorffennaf 2014