Codi tua’r entrychion! Catrin yn llwyddo ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Ewrop
Mae athletwraig leol sy’n ddeiliad bwrsariaeth chwaraeon gan Brifysgol Bangor wedi dychwelyd o’r European Youth Weightlifting Championships yng Ngwlad Pwyl â medal arian yn y ‘snatch lift’ a medal efydd am ei holl ymdrechion yn y categori 48kg.
Catrin Jones, sy’n ddisgybl yn Ysgol Friars, Bangor, yw deiliad Bwrsariaeth Leol Canolfan Brailsford ar gyfer 2016/17. Mae’r fwrsariaeth yn galluogi athletwr neu athletwraig lleol i ddefnyddio’r cyfleusterau yng Nghanolfan Brailsford, canolfan chwaraeon a ffitrwydd y Brifysgol, fel rhan o’u rhaglen hyfforddi.
 hithau mewn cystadleuaeth galed yn erbyn cystadleuwyr o wledydd megis Twrci, Azerbaijan a Bwlgaria – gwledydd adnabyddus ym maes codi pwysau – cafwyd perfformiad clodwiw gan Catrin yn nhref Nowy Tomyśyl yng Ngwlad Pwyl yn ystod 9 – 17 Medi. Enillodd ei medal arian wedi iddi godi 65kg yn y dull ‘snatch’. Yn dilyn perfformiad da arall yn y dull ‘Clean & Jerk’, enillodd Catrin le ar y podiwm a derbyn medal efydd yng nghategori Merched 48kg.
Mae Catrin wedi hen arfer â sefyll ar y podiwm fodd bynnag. Ym mis Medi y llynedd llwyddodd i gipio’r fedal aur yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Samoa a hi bellach yw pencampwraig bresennol Cymru, pencampwraig Ieuenctid a Hŷn y DU a phencampwraig a deilydd record Dan-18 a Dan-20 y DU. Cystadleuaeth nesaf Catrin yw Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Malaysia ac mae’n anelu at gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia yn 2018.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â rhaglen Bwrsariaeth Leol Canolfan Brailsford, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch sut i ymgeisio, ewch i www.bangor.ac.uk/brailsford/bursaries.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 22 Medi 2016