Codwr pwysau ifanc yn cipio’r gwobrau
Gwta flwyddyn ers iddi ddechrau ar godi pwysau, mae merch leol wedi bod yn ennill cystadlaethau cenedlaethol.
Bu Catrin Jones yn fuddugol yn ddiweddar yng Nghystadleuaeth Pencampwriaethau Codi Pwysau Ysgolion Cymru yn Hwlffordd, gan ennill categori disgyblion Blwyddyn 10, yn y dosbarth o dan 44kg. Yn dilyn hyn, aeth ymlaen i ennill Pencampwriaeth Ysgolion ac Ieuenctid Prydain yng nghategori disgyblion blwyddyn 10, yn y dosbarth o dan 40kg. Nid yn unig yr enillodd Catrin, ond llwydodd hefyd i dorri record Cymru ar gyfer y dosbarth hwn o 38kg yn y broses, gyda chyfanswm codi o 90kg.
Mae Catrin, sy’n byw ym Mangor Uchaf ac yn ddisgybl yn Ysgol Friars School, wedi bod yn hyfforddi yng Nghanolfan Chwaraeon Prifysgol Bangor ers tua blwyddyn. Mae hi’n cael ei hyfforddi gan ei thad Dave Jones, sy'n Rheolwr Ffitrwydd yn y Ganolfan.
Meddai Dave: “Mae Catrin wedi gwneud cynnydd rhagorol dros y 12 mis ac rwy’n gobeithio y bydd yn parhau i gynnal a gwella cynnydd hwn.”
Roedd Catrin yn derbyn hyfforddiant gan ei thad ar gyfer ei champ arall, sef gymnasteg, ac wrth wneud, cafodd flas ar godi pwysau hefyd. Felly, penderfynodd godi pwysau ochr yn ochr â gymnasteg.
Pan ofynnwyd iddi sut beth oedd hyfforddi gyda’i thad, dywedodd Catrin, “Mae’n wych, gallwn drafod ymarferion hyfforddi ac mae’n bosib bod yn eithaf hyblyg yn ein hyfforddiant.”
Hoffai Catrin a Dave ddiolch i Ray Williams o Gaergybi sydd wedi helpu ar hyd y ffordd gyda hyfforddiant Catrin.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2014