Cyfle cyffroes newydd i astudio Polisi Cymdeithasol drwy’r Gymraeg ar lefel ôl-radd
Mae cyfle cyffroes newydd i astudio maes Polisi Cymdeithasol ar lefel ôl-radd, a hynny drwy’r iaith Gymraeg, yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor.
Mae’r ysgoloriaeth i ddechrau 1 Hydref 2011. Cyllidir yr Ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’n un o chwe Ysgoloriaeth debyg a ddyfarnwyd i Brifysgol Bangor, gyda myfyrwyr ôl-radd eisoes wedi’u recriwtio i astudio pynciau eraill ar draws y Brifysgol.
Ceir y manylion llawn am y cyfle yma.
Mae gan Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor 38 o staff academaidd llawn-amser sy’n dysgu ac ymchwilio mewn amrywiaeth eang o feysydd, a gellir cael gwybodaeth bellach am yr Ysgol a diddordebau ymchwil aelodau’r staff ar ei gwefan.
Mae’r efrydiaeth yn rhan o lwyddiant diweddar y Brifysgol wrth ennill cyllid o‘r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer naw swydd darlithio newydd llawn amser- i ddarlithio mewn pynciau nad oeddynt ar gael yn flaenorol drwy gyfrwng y Gymraeg, a chwe ysgoloriaeth doethuriaeth cyfrwng Cymraeg.
Mae’r ysgoloriaethau a swyddi darlithio newydd yn adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol at addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Prifysgol Bangor yw’r darparwr blaenllaw addysg uwch cyfrwng Cymraeg yng Nghymru, ac mae’r sefydliad yn annog dwyieithrwydd drwyddi- draw.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Medi 2011