Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Bangor yn cefnogi Cronfa Goffa Gwyn Thomas
‘Fore Mercher, 14 Mawrth 2018, caed achlysur anffurfiol ond hyfryd yn Neuadd Pritchard Jones. Yno y cyfarfyddais â thair o gynheiliaid Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr sef Mrs Annis Milner, Mrs Ella Owens a Mrs Ann Roberts a chael tynnu ein llun i gofnodi’r achlysur. A’r gymdeithas bellach wedi ei dwyn i ben, penderfynodd ei haelodau drosglwyddo’r swm sylweddol a oedd yn weddill yn ei chyfrif banc i Gronfa Goffa Yr Athro Gwyn Thomas. Ac yntau’n gyn-bennaeth yrAdran y Gymraeg ac yn un o gyn-fyfyrwyr enwocaf Bangor, bu Gwyn yn aelod ffyddlon o’r gymdeithas ar hyd y blynyddoedd. Lansiwyd y gronfa goffa yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni yn 2016, dri mis ar ôl ei farw, ac ers hynny derbyniwyd cyfraniadau hael er cof amdano gan amryw o’i gyn-fyfyrwyr, ei gyfeillion a’i gydnabod. Bydd y gronfa yn ein galluogi i gefnogi a gwobrwyo myfyrwyr presennol Adran y Gymraeg a thrwy hynny gadw enw a gwaddol Gwyn yn fyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.’
Yr Athro Gerwyn Wiliams, Pennaeth Adran y Gymraeg
Er bod Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr bellach wedi dod i ben, mae rhai aelodau yn dal i gyfrannu iddi’n flynyddol drwy archeb banc. Gofynnwn yn garedig i’r aelodau hynny drefnu gyda changen banc HSBC Bangor eu bod yn terfynu eu harcheb cyn gynted â phosib, os gwelwch yn dda.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2018