Cyngerdd sy’n dangos cysylltiad Prifysgol Bangor gyda’r Dwyrain a gwaith arbennig perfformwyr a chyfansoddwyr
Bydd cyngerdd yn Stiwdio Pontio nos Iau yma, 11 Ebrill 7.30pm yn dod â dau ddiwylliant gwahanol at ei gilydd gan ddangos cyfoeth y dalent sydd yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor.
Wedi’i drefnu gan Richard Craig, Pennaeth Perfformio yn yr Ysgol Gerdd, bydd y cyngerdd yn cynnwys myfyrwyr a staff dysgu o’r Brifysgol gan archwilio’r thema natur.
“Mae’r thema ‘natur’ neu’r elfennau, yn gysyniad sy’n dod â’r Dwyrain a’r Gorllewin ynghyd – mae’r ddau ddiwylliant yn aml yn adlewyrchu natur epig eu hamgylchiadau, ac yma yng Nghymru rydym yn ffodus i gael natur ar ein stepan ddrws. Mae’r cyfansoddiadau a berfformir yn sylwebaeth ar ystyr neu symbolaeth natur iddynt hwy, a byddwn yn perfformio cyfansoddiadau newydd gan gyfansoddwyr o Gymru yn ogystal â pherfformiad arbennig o gerddoriaeth draddodiadol Tsieineaidd gan un o’n myfyrwyr, Yiwen Guo, ar y Guzheng.”
Bydd y perfformwyr yn cynnwys Mared Emlyn (Tiwtor Telyn a chyfansoddwr), Sioned Roberts (Tiwtor clarinét a chyfansoddwr), Yr Athro Andy Lewis, Athro mewn Cyfansoddi, a myfyriwr doethuriaeth, Katherine Betteridge.
Ychwanegodd Richard Craig, “Mae’r rheini sy’n cymryd rhan yn y cyngerdd yn berfformwyr a chyfansoddwyr nodedig, sy’n cymryd rhan mewn sawl cyngerdd yng Nghymru, Prydain a thu hwnt. Mae’n cynrychioli’r cyfnewid diwylliannol yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, ei gysylltiad gyda’r Dwyrain a hefyd gwaith arbennig y perfformwyr a’r cyfansoddwyr sy’n dysgu yma ac yn gweithio yn y proffesiwn.”
Pontio’r Dwyrain a’r Gorllewin
Nos Iau 11 Ebrill
7.30pm
Stiwdio Pontio
£12/£10 dros 60/£5 myfyrwyr a dan 18
Archebwch arlein www.pontio.co.uk neu 01248 38 28 28 neu galwch draw yn y ganolfan.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2019