Cyngerdd yn cyfrannu tuag at Gronfa’r Urdd
O ganlyniad i Gyngerdd Mawreddog a gynhaliwyd gan Brifysgol Bangor yn Neuadd Prichard-Jones, cyflwynodd yr Athro John G Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol, siec am £2242 i Bryn Tomos, Cadeirydd Pwyllgor Apêl Bangor ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nglynllifon.
Rhoddwyd llwyfan i gyfoeth o ddoniau’r rhanbarth yn ystod y noson arbennig yma.
Cafwyd amrywiaeth cerddorol eang at ddant pawb gyda pherfformiadau gafaelgar gan Fand Jazz Ysgol Tryfan, Côr Meibion Dinas Bangor, Côr Meibion y Penrhyn, Côr Neuadd Syr John Morris Jones, Casi Wyn, John Eifion, Band Pres Porthaethwy, Ysgol y Garnedd ac offerynnwr taro, Dewi Elis Jones.
Dywedodd Bryn Tomos, Cadeirydd Pwyllgor Apêl Bangor:
“Rydym yn eithriadol o ddiolchgar i’r Brifysgol am drefnu’r noson ac yn werthfawrogol iawn o’r cyfraniad. Rydym yn ddyledus i’r Is-Ganghellor am adael i ni gael defnyddio Neuadd Prichard-Jones am ddim ar gyfer yr achlysur yma, ac ar gyfer sawl achlysur arall er mwyn i ni gynnal digwyddiadau i godi arian i’r Eisteddfod.”
Dywedodd yr Athro John G Hughes, a fu yn y cyngerdd: "Roeddwn yn falch iawn gydag ansawdd rhagorol ac ystod eang y doniau cerddorol sydd gennym yn lleol ac rwy'n falch bod y Brifysgol yn gallu cefnogi a gwneud cyfraniad tuag at y fath ddigwyddiad diwylliannol pwysig."
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2012