Cynhadledd - Boddi Mewn Celfyddyd
Cynhadledd Ysgol Cerddoriaeth ac Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
13 – 14 Mehefin 2015, Gwersyll yr Urdd Glan Llyn, Llanuwchllyn
Siaradwyr Gwadd: Dafydd Iwan a Manon Eames
Wedi blynyddoedd o ddymchwel a phrotestio, yn 1965, daeth y dŵr i foddi Cwm Celyn, gan foddi diwylliant, hanes bro a thraddodiad yn ei sgil.
Ond esgorodd dicter a thor calon y genedl nid yn unig ar ddeffroad gwleidyddol, ond hefyd deffroad celfyddydol wrth i genhedlaeth o Gymry ganfod dull o fynegi eu dirmyg trwy gerddoriaeth, barddoniaeth, drama a chelf.
A hithau bellach yn hanner can mlynedd yn ddiweddarach, dyma gyfle i gasglu ynghyd a gwerthfawrogi’r gwaddol celfyddydol a ysbrydolwyd gan foddi’r cwm mewn cynhadledd deuddydd mewn lleoliad arbennig nepell o Dryweryn. Fel rhan o’r gynhadledd, bydd cyfle i ymweld â Thryweryn, yn ogystal â mwynhau detholiad o’r ddrama a gomisiynwyd ac a gynhyrchwyd yn wreiddiol gan Theatr Genedlaethol Cymru a Clwyd Theatr Cymru, Porth y Byddar gan Manon Eames, a hynny o dan gyfarwyddyd Siwan Llynor, sy’n hanu o’r Bala.
Yn ystod y gynhadledd, traddodir darlithoedd gan Dafydd Iwan a Manon Eames, a bydd arddangosfa aml-gyfrwng unigryw yn dogfennu hanes y boddi, a’r cynnyrch celfyddydol a grëwyd yn ei sgil.
Am fwy o wybodaeth, lawrlwythwch raglen y gynhadledd a phe dymunech ymuno â ni, a fyddech cystal â lawrlwytho’r ffurflen gofrestru, ei llenwi a’i hanfon yn ôl i boddi.mewn.celfyddyd@bangor.ac.uk. Edrychwn ymlaen i’ch gweld yno!
Trefnwyr y Gynhadledd: Dr Gwawr Ifan a Dr Manon Wyn Williams
Noddir y gynhadledd hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2015