Cynhadledd Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudio Diwylliant a Hanes Cymru
Rhwng y 25ain a’r 27ain o Orffennaf bydd Bangor, Dinas Dysg, yn croesawu casgliad o ôl-raddedigion ifanc, academyddion gyrfa gynnar ac ysgolheigion profiadol o’r DU, ac o cyn belled ag Ontario, Canada, wrth iddi gynnal 12fed cynhadledd ddwyflynyddol Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudio Diwylliant a Hanes Cymru 2018.
O Ddiwylliant Poblogaidd i Wleidyddiaeth, Tirlun i Lenyddiaeth, Rhyfel, Cyfryngau a Cherddoriaeth, bydd y gynhadledd hon, sy’n para am dridiau, yn cynnig detholiad cynhyrfus ac amrywiol o destunau, themâu a disgyrsiau ar Ddiwylliant, Llenyddiaeth a Hanes, gan hefyd ymgodymu ag astudiaethau o ddiwylliant Cymry-America, ac archwilio pynciau llosg sy’n effeithio ar y Gymru Gyfoes. Bydd y gynhadledd yn cynnwys papurau gafaelgar gan siaradwyr cyweirnod blaenllaw megis Huw Pryce, Athro Hanes Cymru ym Mangor, Katie Gramich, Athro Llenyddiaeth Saesneg yng Nghaerdydd, a Huw Osborne, Athro Cysylltiol yng Ngholeg Milwrol Brenhinol Canada.
“2012 oedd y tro diwethaf i Gynhadledd NAASWCH fod ym Mangor, ac rwy’n falch o’i chroesawu unwaith eto i’r Brifysgol, gan y cyniga gyfle gwych i ddysgu am ymchwil sy’n torri cwys newydd yn ein dealltwriaeth o orffennol Cymru yn ogystal â’i chymdeithas gyfoes.”
- Yr Athro Andrew Edwards, cyd-drefnydd y gynhadledd
Mae NAASWCH 2018 yn llawn addewid o fod yn symposiwm treiddgar fydd yn procio’r meddwl ar nifer o agweddau o’r cyflwr Cymreig.
Am fanylion pellach ynglŷn â’r Gynhadledd, plîs cysylltwch â’r cyd-drefnydd Dr Mari Wiliam:
Gwahoddir cyfranogwyr y Gynhadledd hefyd i gyhoeddi darn cryno ar flog Hanes Cymru newydd Prifysgol Bangor, gan arddangos y casgliadau arwyddocaol fydd wedi’u cyflwyno yn y gynhadledd i gynulleidfa ehangach. Gellir gweld y blog ar y ddolen ganlynol:
https://hanescymrubangor.wordpress.com/
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2018