Cynyddu ein partneriaethau dysgu
Mae gan yr Ysgol Dysgu Gydol Oes bartneriaeth hirdymor a llwyddiannus gyda CAIS, s'yn darparu ein modiwlau seico-gymdeithasol / camddefnyddio sylweddau lefel pedwar ac yn cynnal a chefnogi lleoliadau profiad gwaith a dysgu-yn-y-gweithle.
Nawr 'rydym yn creu partneriaeth newydd gyda Datblygu Cymunedol Cymru i ddarparu Tystysgrif AU a Phroffesiynol mewn Datblygu Cymuned bydd ar gael ar draws Cymru. Bydd y gwaith ymarfer a lleoliadau yn digwydd trwy DCC tra bod y dysgu damcaniaethol ac ymweliadau astudio yn cael eu darparu trwy DGO. Bydd yr elfennau diwethaf ar gael ar-lein a thrwy ddull Ysgol Haf
Mae DCC yn cyfrannu'n barod i'n rhaglen Datblygu Cymuned Olraddadwy, sy'n cael ei ddysgu gan diwtoriaid academaidd, ymarferwyr ac arbenigwyr maes
Mae'r cynnwys wedi mapio i'r safonau galwedigaethol cenedlaethol diweddaraf ac mae'r rhaglennu yn cael eu cyflwyno am ardystiad proffesiynol yn y gwanwyn. Bydd hyn yn ychwanegol i'r dilysiad academaidd cyfredol.
Gwaith tîm gwych!
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2014