Cystadleuaeth Ffotograffiaeth a Barddoniaeth Bangor
Cystadleuaeth Ffotograffiaeth a Barddoniaeth Bangor
Gŵyl Gwyddorau Cymdeithas ESRC, 5-12 Tachwedd 2016
Mae’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn cynnal Cystadleuaeth Ffotograffiaeth a Barddoniaeth fel rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithas yr ESRC. Mae dau gategori, sef 14 i 18 oed ac 18+. Y dyddiad cau ar gyfer ymgeision yw Dydd Mawrth, 1 Tachwedd 2016.
‘Safbwyntiau’
Galw ar bobl i gyflwyno gwaith - Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 1 Tachwedd 2016
Gwobr arian parod o £50 i'r enillydd ym mhob categori. Rhoddir gwybod i'r enillwyr drwy e-bost.
Categorïau
Ystod oedran: Pobl ifanc 14 i 18 oed
- Bywyd cymdeithasol a thechnoleg
- Dychmygu gwell dyfodol
- Plant heddiw.../Fy mywyd heddiw
Ystod oedran: 18 a throsodd
- Newid: Yn cynnig cyfle neu'n tarfu ar fywyd
- Traddodiad, Parhad, neu Rwystr?
- Cysylltiadau
Dylid cynnwys pennawd gyda phob llun. Nid oes rheolau ynghylch y math o ddyfais y gellir ei defnyddio i dynnu'r lluniau. Dyma feini prawf y gystadleuaeth: cyfansoddiad, cyswllt â'r categori, ac ansawdd y llun.
Derbynnir pob ffurf ar gerdd - hyd at 100 o eiriau - derbynnir cerddi yn Gymraeg a Saesneg Dyma feini prawf y gystadleuaeth: cyfansoddiad, cyswllt â'r categori, ac ansawdd y gerdd.
Arddangosir lluniau a cherddi ar-lein.
Rhaid anfon pob llun/cerdd i Gystadleuaeth Ffotograffiaeth a Barddoniaeth Gwyddorau Cymdeithas Bangor, photopoetrycomp@bangor.ac.uk, gyda'r wybodaeth ganlynol:
- Enw
- Ystod oedran (14-18 neu 18+)
- Categori cyflwyno
- Pennawd llun
- Llun neu Gerdd
- Cyfeiriad e-bost
- Rhif Ffôn (gwirfoddol)
Bydd panel o feirniaid yn beirniadu'r lluniau a bydd modd gweld y lluniau ac enillwyr pob categori trwy arddangosfa ar-lein o 7 Tachwedd 2016 ymlaen. Bydd penderfyniad y panel yn derfynol. Wrth gyflwyno cerdd neu lun, mae'r cystadleuwyr yn cytuno y caiff eu lluniau a'u cerddi eu defnyddio yn yr arddangosfa ar-lein.
Amodau mynediad:
- Mae'r cystadleuwyr yn cadarnhau bod pob unigolyn sydd a'i lun yma wedi rhoi eu cydsyniad i'r llun gael ei ddefnyddio at ddibenion y gystadleuaeth.
- Wrth gyflwyno cerdd neu lun, mae'r cystadleuwyr yn cytuno y caiff eu lluniau a'u cerddi eu defnyddio yn yr arddangosfa ar-lein.
- Mae'r awdur yn cadw'r hawlfraint ar eu llun, ac yn cadarnhau mai ei (g)waith ei hun sy'n cael ei gyflwyno.
- Ni ddylai’r llun neu'r gerdd fod wedi cael ei g/chyhoeddi o'r blaen mewn lle arall.
- Ni chaiff y gerdd/llun fod wedi ei ch/gopïo, ni chaiff gynnwys unrhyw ddeunyddiau ac/neu gynnwys trydydd parti na chawsoch ganiatâd i'w ddefnyddio, ni chaiff gynnwys unrhyw nodau masnach.
- Ni chaiff y gerdd/llun ddangos ymddygiad amhriodol neu beryglus, neu fel arall yn fasweddus, yn ddifenwol, yn ddichwaeth, yn dramgwyddus, neu'n torri unrhyw gyfraith neu reoliad perthnasol, neu'n torri unryw ymrwymiadau cyfrinachedd sydd gennych i drydydd partion.
- Caniateir i bob cystadleuydd anfon uchafswm o dair eitem i'r gystadleuaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2016