Cystadleuaeth Meistri Codi Pwysau Ewrop yn dod i Fangor
Cynhelir cystadleuaeth Codi Pwysau Meistri Ewrop yng Nghanolfan Chwaraeon Prifysgol Bangor, Canolfan Brailsford rhwng 13 - 20 Mehefin, 2015.
Ystyrir y Pencampwriaethau yn un o'r digwyddiadau mwyaf yn y calendr Meistri Codi Pwysau. Bydd dros 400 o godwyr pwysau o 28 o wahanol wledydd yn cymryd rhan, gyda dynion a merched o bob rhan o Ewrop yn cystadlu i ennill teitl Meistr. Mae dros 25% o'r cystadleuwyr yn dod o'r DU, sydd yn fwy o gystadleuwyr nag erioed o’r blaen o Brydain.
Mae croeso i wylwyr ac mae’r mynediad yn rhad ac am ddim.
Meddai Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon Prifysgol Bangor: "Rydym yn falch iawn o groesawu'r digwyddiad Meistri Ewrop yma i Brifysgol Bangor ac rwy'n siŵr y gwelwn gystadleuaeth frwd dros yr wythnos".
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2015