Danielle yn cynrychioli Chwaraeon Prifysgol Prydain yn Tsiena
Mae Llywydd yr Undeb Athletau ym Mhrifysgol Bangor, Danielle Giles, wedi cael ei dewis yn un o bedwar cynrychiolydd o’r DU i'r 11eg Fforwm FISU (Ffederasiwn Rhyngwladol Chwaraeon Prifysgol), a gynhelir yn Taipei City, Tsiena rhwng 26-31 Mawrth.
Cynrychiolir British University College Sports (BUCS) gan ddau aelod staff a dau fyfyriwr. Dewiswyd Danielle yn un o gynrychiolwyr myfyrwyr y DU yn dilyn proses gystadleuol.
Meddai Danielle, a oedd wrth ei bodd ei bod wedi’i dewis:
"Rwy'n gobeithio dysgu llawer iawn a fydd yn dylanwadu ar sut rydym yn cefnogi ac ymestyn chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor. Bydd natur ryngwladol y digwyddiad yn rhoi cyfle gwych i gael mwy o wybodaeth a dealltwriaeth o bynciau yn ymwneud ag addysg, diwylliant a chwaraeon, trwy ddysgu am yr arferion gorau mewn mannau eraill."
Mae’r Fforwm FISU yn ymgynnull bob dwy flynedd gyda chynrychiolwyr myfyrwyr a staff /swyddogion uwch sy’n ymwneud â chwaraeon prifysgol ym mhob cwr o'r byd. Cynrychiolwyd Prydain ym mhob un o'r wyth Fforwm blaenorol.
Mae'r Fforwm yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr o'r holl genhedloedd gymharu rhaglenni a darpariaeth chwaraeon mewn prifysgolion mewn gwahanol wledydd, yn ogystal â thrafod swyddogaeth FISU a'i rhaglen chwaraeon. Mae pob dydd yn cynnwys trafodaethau, gweithdai a chyflwyniadau ar ffurf cynhadledd, yn ogystal â theithiau diwylliannol.
Prif thema'r Fforwm fydd 'Chwaraeon Prifysgol, Llwyfan i Ddatblygu Cynaliadwy’.
Gellwch ddarllen am brofiad Danielle yn y Fforwm drwy ddilyn ei blog http://daniellegiles.tumblr.com/.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2012