Darlithwyr newydd yn ymestyn y ddarpariaeth yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor
Mae’r cyfansoddwr llwyddiannus a dawnus ifanc, Owain Llwyd, y mae ei waith wedi ei ddefnyddio ar Top Gear a llu o raglenni poblogaidd a ffilmiau, ymysg naw darlithydd sydd wedi’u penodi ym Mhrifysgol Bangor. Bydd y naw yn darparu modiwlau newydd mewn a hynny yn Gymraeg am y tro cyntaf.
Mae wyth darlithydd wedi’u penodi eisoes, gydag un penodiad eto i’w lenwi ym maes Gwaith Cymdeithasol.
Mae’r swyddi darlithio yn adlewyrchu llwyddiant diweddar y Brifysgol wrth ennill cyllid o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer naw swydd darlithio newydd a chwe ysgoloriaeth doethuriaeth cyfrwng Cymraeg.
Mae’r ysgoloriaethau a swyddi darlithio newydd yn adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol at addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Prifysgol Bangor yw’r darparwr blaenllaw addysg uwch cyfrwng Cymraeg yng Nghymru.
Bydd y darlithwyr newydd yn cychwyn ym mis Medi 2011 am gyfnod o 5 mlynedd.
Dywedodd Yr Athro John Hughes, Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor: ‘Mae’r penodiadau hyn yn arwydd pendant o’n hymrwymiad ni fel sefydliad i ddatblygiad addysg uwch cyfrwng Cymraeg ac mae cefnogaeth arbennig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhywbeth i’w groesawu’n fawr’.
Mae Dr Owain Llwyd yn arbenigo ar gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ffilm a bydd yn rhannu ei arbenigedd mewn modiwl a fydd ar gael fel dewis i fyfyrwyr cerddoriaeth o hyn ymlaen. Yn dilyn cyhoeddi casgliad o gryno ddisgiau o gerddoriaeth llyfrgell dan adain cwmni Boosey and Hawkes, clywir ei weithiau ar raglenni fel The X-Factor (ym Mhrydain ac yn Ewrop) a Top Gear ac ar sawl hysbyseb deledu. Daw Owain i’r Brifysgol wedi cyfnod o brofiad yn gweithio fel cyfansoddwr yn y diwydiant ffilmiau yn Llundain. Cyn hynny yr oedd yn ddeiliad ysgoloriaeth ymchwil o dan nawdd y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg, sydd bellach wedi ei hymgorffori o fewn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Yn ymuno ag Owain mae Dr Paula Roberts a fydd yn darlithio mewn Gwyddor yr Amgylchedd, Dr Manon Jones, darlithydd mewn Seicoleg, Dr Ruth Williams, darlithydd mewn Nyrsio, Dr Manon Mathias, darlithydd mewn Ffrangeg, Dr Craig Owen Jones, darlithydd mewn cerddoriaeth boblogaidd, Enlli Haf Huws a fydd yn darlithio mewn Cemeg a Dr Myfanwy Davies a fydd yn darlithio mewn Polisi Cymdeithasol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2011