Darlithydd o Fangor yn cael ei enwebu am wobr genedlaethol ‘Athro’r Gyfraith y Flwyddyn’
Mae uwch darlithydd o Ysgol y Gyfraith Bangor wedi cael ei enwebu am wobr genedlaethol gan ei fyfyrwyr.
Rhoddwyd enw Mr Aled Griffiths, Dirprwy Pennaeth Ysgol y Gyfraith, ymlaen ar gyfer gwobr flynyddol ‘Athro’r Gyfraith y Flwyddyn’ Oxford University Press. Mae’r gystadleuaeth yn annog ceisiadau ar gyfer athrawon y Gyfraith ar draws bob lefel o addysg, o ysgolion i brifysgolion a sefydliadau preifat.
Ymhlith y rhesymau dros ei enwebiad oedd ei gefnogaeth o addysg cyfrwng Gymraeg, ei ymrwymiad i ofal bugeiliol a datblygiad academaidd, ac ei ymchwil ym maes cyflogadwyedd graddedigion y Gyfraith.
Bydd canlyniadau’r enwebiadau yn cael eu cyhoeddi tuag at ddiwedd y flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2012