Darlithydd Prifysgol Bangor yn Feistres Defod y Coroni
Mae Dr Rhian Siân Hodges, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cael ei dewis yn Feistres Defod y Coroni yn Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch.
Dyma un o brif seremonïau Eisteddfod yr Urdd lle y gwobrwyir prif lenor yr ŵyl. Eleni, mae Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili sydd yn ardal enedigol i Dr Hodges. Cynhelir y seremoni am 2.30yh ar ddydd Gwener yr 29ain o Fai ac yn ogystal, darlledir y seremoni ar S4C.
Yn ôl Dr Hodges:
“Mae’r Eisteddfod hon yn un bersonol i mi ac mae’n braf iawn dod gartref i’r Cymoedd i brofi’r holl fwrlwm. Mae yna rywbeth arbennig am Gymreictod sir Gaerffili ac rwy’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y dathliadau di-ri. Trwy ysgolion cyfrwng Cymraeg sir Gaerffili a’r Urdd Rhanbarth Gwent cefais y cyfle i ddysgu’r Gymraeg a’i defnyddio yn gymdeithasol drwy nifer o brofiadau bythgofiadwy. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at y seremoni ac at yr Eisteddfod yn gyffredinol. Dewch yn llu i safle godidog Llancaiach Fawr!”
Mae’r Eisteddfod yr Urdd ymlaen 25 – 30 Mai 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2015