Darlithydd Ysgol Busnes Bangor yn ennill grant i hybu addysg gyfrwng Cymraeg
Mae Dr Sara Parry, Darlithydd ym Marchnata yn Ysgol Busnes Bangor, wedi ennill grant i ddatblygu ffilm ddigidol sy’n hyrwyddo manteision astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd y grant o £17,500, a dyfarnwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn galluogi Dr Parry a thîm Marchnata Coleg Busnes, Gwyddorau Cymdeithas a’r Gyfraith I gynhyrchu ffilm ddigidol bydd yn pwysleisio buddion astudio Busnes trwy’r Gymraeg. Mi fydd y ffilm yn cael ei dosbarthu i ysgolion uwchradd ar draws Cymru.
Bwriad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a sefydlwyd ym mis Ebrill 2011, yw hyrwyddo addysg a dysgu trwy gynllunio cyfleoedd cyfrwng Cymraeg yn y maes Addysg Uwch.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Tachwedd 2011