Datblygu Dinasyddiaeth Gweithrdol
Mae'r Ysgol Dysgu Gydol Oes, mewn partneriaeth gyda chydweithwyr Ewropeaidd, ar fin cychwyn prosiect dwy flynedd CITCOM.
Gyda chyllid Rhaglen Dysgu Gydol Oes Ewrop (Grundtvig) bydd y bartneriaeth, dan arweiniad Shan Ashton, yn ymchwilio'r syniad o ddinasyddiaeth, ei gyfyngiadau a dewisiadau positif eraill. Bydd y tîm yn defnyddio dulliau datblygu cymuned gyda dysgu anffurfiol yn graidd iddynt, i ddatblygu prosesau a allai hybu ac ysbrydoli dinasyddiaeth fwy gweithredol, wybodus a chynhwysol.
Mae'r bartneriaeth yn cynnwys sefydliadau o'r Eidal, Romania, y Weriniaeth Siec, Ffrainc, Lithwania yn ogystal â Chymru
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2013