Dawn yn hedfan wedi graddio!
Gadawodd Dawn Thompson o Gaergybi yr ysgol yn Singapore yn 17 oed gyda llond llaw o TGAU. Gan fod ei thad yn yr Awyrlu, nid oedd fawr o gyfle i fynd mlaen i addysg bellach ar y pryd, felly pan ddychwelodd y teulu i’r DU, dechreuodd waith fel derbynnydd mewn cwmni garddwriaethol.
Yn awr yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Personol i Gyfarwyddwr Rhaglen, Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor, graddiodd Dawn yn ddiweddar gyda BA (Anrh) Astudiaethau Cymdeithasol.
“Roeddwn yn wastad wedi meddwl y gallwn wneud yn well, ond ’doedd gen i ddim o’r dewrder i wneud unrhyw beth amdano. Ond, wedi mynd gyda’m merch i ddiwrnod agored mewn Prifysgol ac eistedd yn y ddarlithfa’n clywed am fanylion y cwrs, sylweddolais mai “dyma dwi isio”. Wedi dod nôl, cofrestrais yn yr Ysgol Dysgu Gydol Oes ym Mangor ar gyfer gradd ran amser.”
“Rhoddodd staff Dysgu Gydol Oes ysbrydoliaeth, gwybodaeth ac anogaeth i mi ar hyd y daith drwy astudio rhan amser. Nid oedd unrhyw beth yn ormod o drafferth ac roedd help ar gael bob amser, pryd bynnag yr oedd gofyn amdano. Alla i ddim diolch digon i’r staff a’r tiwtoriaid am y cyfle a ges i wireddu f’uchelgais o ennill y cymhwyster hwn.”
Fel nifer o fyfyrwyr Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Bangor, unwaith y maent wedi dechrau dysgu, mae’n amhosibl eu dal nôl ac mae Dawn yn awr ar fin dechrau ar radd Meistr mewn Arwain a Rheoli.
I gael gwybod mwy am raddau rhan amser, cysylltwch â Dysgu Gydol Oes 01248 383668 neu ewch i’r wefan w ww.bangor.ac.uk/dgo
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2011