Dewch i brofi diwylliant Japan fel rhan o ymgyrch hel arian y penwythnos yma.
Mae criw o fyfyrwyr Bangor yn cynnal digwyddiad i gefnogi dioddefwyr y daeargryn yn Japan yn Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg ar Ddydd Sadwrn Mawrth 26ain rhwng 2yp a 6yh. Bydd cyfres o weithdai cyffroes gan gynnwys caligraffi, origami, paentio wynebau a hefyd cyfle i drio ‘kimono’ yn ogystal â pherfformiadau byw, marchnad a sioe ffasiwn gyda gwisgai o wledydd ar draws y byd.
Mi fydd aelodau o’r ymgyrch “Bangor dros Japan” hefyd yn casglu arian ar hyd a lled Bangor dros yr wythnosau nesaf i godi arian ar gyfer Cymdeithas Groes Goch Japan.
Mae’r ymgyrch wedi cynnal un digwyddiad llwyddiannus iawn yn barod i godi arian - wythnos diwethaf cafodd bobol gyfle i wrando ar ddrymiau Taiko a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â Japan megis origami.
Dywedodd un o’r trefnwyr: “Rydym eisiau dweud diolch enfawr i bawb a ddaeth i gefnogi’r digwyddiad y penwythnos diwethaf. Diolch i bawb a oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad - mi gafodd pawb ddiwrnod gwych ac fe lwyddom i godi £860 - dim yn ddrwg mewn pum awr!
“Roedd gymaint o gyfraniadau gwych i’r raffl ac rydym yn gobeithio defnyddio’r gweddill mewn digwyddiad arall. Mi fyddem yn tynnu’r raffl ar yr 2il o Ebrill felly nid yw’n rhy hwyr i gael tocynnau!”
Mi fydd aelodau yn hel arian hyd at Ddydd Sul, Ebrill 10fed yn y mannau isod:
• Llun-Gwener: 12:00-14:00 Morrisons
• Sadwrn: 11:00-16:00 Stryd Fawr a Morrisons
• Sadwrn: 12:00-14:00 Morrisons
Mae bocsys ar gyfer cyfraniadau hefyd wedi eu lleoli yng Nghaffi Dylan ym Mhrif Adeilad y Brifysgol, y Ganolfan Reolaeth, Canolfan yr Amgylchedd, Brigantia, Wheldon, Maes Glas, Late Shop a’r Swyddfa Bost ym Mangor Uchaf.
I brynu tocynnau raffl neu am wybodaeth yna cysylltwch â Atsushi Kajimoto elu633@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2011