Diddordeb mewn astudio ar lefel ôl-radd?
Eisiau dysgu mwy am astudiaethau ôl-radd? Yna cadwch lygaid am y pengwins ôl-radd dros y dyddiau nesaf oherwydd fe fyddan i’w gweld o gwmpas Bangor yn rhannu gwybodaeth am y Ffair Gyrsiau Ôl-radd fydd yn cael ei chynnal ddydd Gwener, Chwefror 18 rhwng 12.30 a 2.30y.p. yn Neuadd PJ.
Gall cymhwyster ôl-radd wella eich CV, gall agor drysau i gyfleoedd pellach yn eich gyrfa neu mewn gyrfa newydd.
Cymhwyster ôl-radd o Brifysgol Bangor oedd yr allwedd i Mandy Knott gael ei phenodi i swydd bwysig a diddorol - a’i chyntaf mewn gyrfa newydd.
Mae gan Mandy’r dasg bwysig o weithio ar fesur deddfwriaethol a fydd yn sicrhau rheolaeth a chadwraeth pysgodfa cocos a chregyn gleision Bae Morecambe.
Aeth Mandy i Ffair Cyrsiau Ôl-radd, lle cafodd gyfle i drafod y cwrs roedd am astudio, ac i ddod i adnabod cyfarwyddwr y cwrs a gweld yr adnoddau.
“Rhoddodd y Ffair gyfle i mi gwrdd â’r staff a thrafod fy opsiynau wyneb yn wyneb. Cadarnhaodd fy mhenderfyniad i wneud cais,” meddai.
Engraifft arall yw Pam Martin, a ddaeth i Brifysgol Bangor fel myfyrwraig hŷn wedi dilyn cwrs mynediad. Wedi iddi raddio mewn seicoleg, bu’n gweithio fel cynorthwyydd ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg am nifer o flynyddoedd, ond nid oedd wedi meddwl o ddifrif am wneud gradd bellach.
“Daeth y cyfle i astudio gradd MSc a Doethuriaeth ar y cyd ac fe’i gwelais fel cyfle i ddysgu mwy am y pwnc sy’n fy niddori a hefyd fel pedair blynedd arall o waith,” meddai.
Ers ennill cymhwyster ôl-radd, mae Pam bellach yn gweithio fel Swyddog Ymchwil a Chydlynydd Treialon yn y Brifysgol. Mae hi ar hyn o bryd yn recriwtio ac yn ymweld â phobol ledled gogledd Cymru, sydd wedi derbyn diagnosis o Glefyd Parkinson neu Alzheimer yn ddiweddar. Ni fyddai Pam, sydd yn wreiddiol o Gaergybi, bellach yn byw ger Biwmares, wedi cael y cyfle i wneud y gwaith hwn heb ei doethuriaeth a enillodd ym mis Ionawr 2010.
Meddai Pam Martin am ei gwaith : “Tydi o ddim yn teimlo fel gweithio- dyna faint dwi’n ei fwynhau!”
Am fwy o gyngor, cymerwch gip olwg ar beth sydd gan James Intriligator, Uwch Ddarlithydd yma ym Mangor, I ddweud yn yr erthygl “Will a Master’s get you a job?” yn y Guardian wythnos yma.
Bydd Prifysgol Bangor yn cynnal Ffair ôl-raddedig ddydd Gwener 18 Chwefror 2011, rhwng 12:30 a 2:30y.p i arddangos y rhaglenni ôl-radd ac ymchwil sydd ar gael ym Mangor.
Caiff y digwyddiad ei gynnal yn Neuadd Prichard Jones y Brifysgol a bydd cynrychiolwyr o bob ysgol academaidd yn bresennol yn ogystal â'r Swyddfa Derbyniadau a’r Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr.
Yn ogystal, bydd rhai Ysgolion yn cynnal teithiau unigol a chyflwyniadau pwnc yn dilyn y digwyddiad.
Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio ar lefel ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor ddod i’r Ffair, a dysgu mwy am y nifer helaeth o wahanol raglenni ôl-radd sydd ar gael. Gellwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad trwy fynd i wefan y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2011