Digwyddiad Ymgynghori yn dod a'r Parc gam yn nes
Mae prosiect Parc Gwyddoniaeth Menai yn parhau i symud ymlaen a bydd yn ymgynghori ar gynlluniau yn y Gaerwen ar y 1af o Fedi. Mae trigolion yn cael eu gwahodd i ddod draw i weld y syniadau cychwynnol.
Gyda gwaith archeoleg yn cael ei gynnal ar y safle a nifer o astudiaethau eraill ar y gweill, y nod fydd i gyflwyno'r cais cynllunio amlinellol yn yr Hydref.
Y bwriad fydd i agor y drysau ar y fenter gyffrous hon yn y flwyddyn academaidd 2016-17. Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo i ddod o hyd i gwmnïau a fydd yn darparu gwasanaethau cefnogi, ac mae llawer o'r sgyrsiau hyn yn cael eu cynnal gyda phrosiectau sydd eisoes yn rhedeg o fewn y Brifysgol ac o fewn y gymuned fusnes.
Mae nifer o ddigwyddiadau wedi cael eu cynnal gan y tîm prosiect, a bydd y nesaf yn cael ei gynnal yn Neuadd y Pentref yng Ngaerwen ar y 1af o Fedi. Bydd y drysau ar agor i'r cyhoedd rhwng 2:00-7:00, gyda chopïau o'r prif gynllun safle ar ddangos a digon o gyfle i drafod gydag aelodau o'r Tîm Prosiect a'r cynllunwyr meistr.
Mae cryn ddiddordeb wedi ei ddangos gan gwmnïau a mentrau yn yr ardal sydd yn bwriadu lleoli ar y Parc, gyda'r nod cyffredinol o greu a chefnogi swyddi medrus gyda chyflogau da yn yr ardal. Mae'r prosiect yn cael ei ariannu trwy Lywodraeth Cymru a Chronfeydd Strwythurol yr UE
Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2014