Disgyblion yn cael blas ar fywyd Prifysgol
Profodd bron i hanner cant o fyfyrwyr o ysgolion a cholegau ledled gogledd Cymru fywyd prifysgol drostynt eu hunain ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Treuliodd y disgyblion Blwyddyn 12 dri diwrnod yn cael profiad dwys o addysg uwch mewn Ysgol Haf, gyda’r nod o sicrhau eu bod yn cael dealltwriaeth ddyfnach o’r hyn sydd gan brifysgol i’w gynnig. Nid oedd gan rai o’r disgyblion a fu’n mynychu unrhyw brofiad teuluol o fynychu prifysgol.
Roedd y rhaglen amrywiol yn cynnwys darlithoedd byr yn seiliedig ar bynciau academaidd a sesiynau ymarferol ar ddatblygu gyrfa, ar gyllid myfyrwyr a gwasanaethau cefnogi. Roedd y digwyddiad, a drefnwyd gan Adran Farchnata’r Brifysgol, hefyd yn gyfle i gwrdd â myfyrwyr presennol, gyda thîm o Fyfyrwyr-Lysgenhadon yn mynd gyda’r disgyblion i’r gweithgareddau ac yno i ateb unrhyw gwestiynau am fywyd prifysgol.
Roedd y seminarau academaidd yn cynnwys pynciau megis Hanes, Gwyddorau Gofal Iechyd (Nyrsio a Bydwreigiaeth), y Gyfraith, Seicoleg, Gwyddorau Eigion ac Ieithoedd Modern. Bu’r grŵp, a fu’n aros mewn fflatiau ym Mhentref Myfyrwyr Ffriddoedd, hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a gweithgareddau Adeiladu Tîm megis paintball a chertio.
“Roedd yn gyfle gwych i ddisgyblion Blwyddyn 12 ar draws gogledd Cymru ganfod mwy am y profiad llawn o fynd i Brifysgol, o fynychu darlithoedd academaidd a seminarau at aros mewn neuaddau preswyl a chael cwrdd â phobl newydd,” meddai Amanda Smith, Rheolwr Cyswllt Ysgolion a Digwyddiadau.
“Roedd yr adborth a gawsom gan y disgyblion yn wych – gyda phawb eisio aros am dridiau arall! Roedd yn gyfle iddynt ddod i adnabod eraill, gyda’r rhai a fu yma’n gwneud ffrindiau newydd o ysgolion gwahanol – a nifer ohonynt yn ystyried gwneud cais i astudio cyrsiau ym Mhrifysgol Bangor y flwyddyn nesaf.”
Roedd y disgyblion o’r ysgolion canlynol: Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon; Denbigh High School; Ysgol John Bright, Llandudno; Ysgol Alun, Yr Wyddgrug; Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn; Ysgol Uwchradd Caergybi; Coleg Cambria, Glannau Dyfrdwy; Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy; Ysgol Brynrefail, Llanrug; Ysgol Bryn Elian, Bae Colwyn; Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2018