Dr Edward Jones ar raglenni radio'n trafod effaith cau canghennau banciau
Yn y cyfnod yn arwain at etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, cynhaliodd BBC Cymru nifer o raglenni'n edrych ar faterion economaidd a chymdeithasol yn y wlad a'r sialensiau y mae'r Aelodau Cynulliad newydd yn eu hwynebu.
Ynghyd â chynrychiolwyr o sefydliadau Cymreig eraill, gwahoddwyd Dr Edward Jones, Darlithydd mewn Economeg, i gymryd rhan yn rhaglen Country Focus, BBC Radio Wales, i drafod y materion a'r sialensiau hyn. Pwynt allweddol a godwyd gan Dr Jones oedd effeithiau cau canghennau banciau ar yr economi wledig. Yn dilyn yr ymddangosiad hwn, fe'i gwahoddwyd i gymryd rhan mewn cyfweliad byw ar raglen y BBC, Good Morning Wales, i roi sylwadau ar ffigurau a gafodd y BBC yn ymwneud â chau banciau yn y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru y mae pump o'r deg ardal uchaf o ran colli banciau. Gofynnwyd i Dr Edward Jones egluro'r duedd mewn cau canghennau a'r effaith mae hyn yn ei gael ar fusnesau a'r economi.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2016