‘Dramodydd gorau yn y Gymraeg’ yn fyfyriwr ymchwil yn Ysgol y Gymraeg
Nos Sadwrn, 30 Ionawr, daeth nifer o gwmnïau theatr, cyfarwyddwyr, actorion, dawnswyr a dramodwyr ynghyd yn Sherman Cymru yng Nghaerdydd ar gyfer seremoni Gwobrau Theatrau Cymru 2015 - seremoni sy’n dathlu rhagoriaeth ym myd y theatr, opera a dawns.
Roedd 600 o enwebiadau unigol ar draws amrediad eang o gategorïau, gan gynnwys ‘Y perfformiad gorau yn y Gymraeg (benyw)’, ‘Y perfformiad gorau yn y Gymraeg (gwryw)’, ‘Y cynhyrchiad Cymraeg gorau’ a’r ‘Dramodydd Gorau yn y Gymraeg’.
Testun balchder i Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor oedd mai un o fyfyrwyr ymchwil yr Ysgol, Llŷr Titus, 23 oed, o Frynmawr ger Sarn Meyllteyrn, a wobrwywyd fel ‘Y Dramodydd Gorau yn y Gymraeg’. Derbyniodd Llyr y wobr am ei ddrama Drych a gyfansoddodd fel rhan o gwrs sgriptio Cwmni’r Frân Wen, ‘Sgript i Lwyfan’, a lwyfannwyd yn genedlaethol y llynedd. Nid dyma’r tro cyntaf i waith Llŷr dderbyn cydnabyddiaeth genedlaethol, gan iddo dderbyn Coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011 a Medal Ddrama’r Urdd yn 2012.
Dywedodd Llŷr: “Mae wedi bod yn brofiad da cael ysgrifennu drama a chael mynd â hi ar daith ac mae cael unrhyw fath o gydnabyddiaeth am hynny wedyn yn ei wneud o’n gymaint gwell. Dwi’n ofnadwy o falch fy mod i wedi ennill - mae wedi bod yn brofiad anhygoel. Dwi mewn amgylchfyd da iawn yma, yn Ysgol y Gymraeg, os dwi isio gwneud y math yma o beth. Mae pawb, yn ddarlithwyr a chyd-fyfyrwyr yn gefnogol iawn.”
Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn ei lwyddiant ac yn dymuno’r gorau iddo i’r dyfodol.
Am fwy o fanylion am y gystadleuaeth gweler: http://www.walestheatreawards.com/the-awards-y-gwobrau-2016/
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2016