Dydy hi byth yn rhy gynnar i ddechrau meddwl am beth sy’n dod nesaf!
Efallai mai hon yw eich wythnos gyntaf yn y Brifysgol- neu wythnos gyntaf y flwyddyn academaidd newydd- ond peidiwch â gadael i hynny’ch rhwystro rhag meddwl am eich gyrfa ac am eich opsiynau o ran gwaith. Does dim rhaid i chi setlo’r cwbl ar unwaith- ond gall swydd ran amser wneud lles i’ch cyfrif banc a gwella’ch sgiliau cyflogadwyedd ar yr un pryd.
Dim ond un o’r opsiynau fydd ar gael yn y Diwrnod Agored Gyrfaoedd yn Neuadd Rathbone rhwng 1.00-4.00 ddydd Mercher 29 Medi yw hwnnw.
Os nad swydd ran amser yw’r peth i chi, cewch wybod hefyd am y gweithdai sgiliau fydd yn cael eu cynnal neu ddysgu am gyfleoedd lleoliad a hyfforddiant fydd ar gael ar ôl i chi raddio, yn ogystal â chael rhywun i daro golwg ar eich CV.
Bydd busnesau lleol yn y digwyddiad hefyd, ac yn cynnig swyddi rhan amser yn ogystal â thrafod cyfleoedd yn y dyfodol.
Ydych chi wedi ystyried rhedeg eich busnes eich hun erioed? Cewch drafod â chynghorydd mentora busnes i gael gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael i entrepreneuriaid sy’n dechrau busnes.
Meddai Lynn Goodhew, Pennaeth Gyrfaoedd: “ Dyma’r digwyddiad cyntaf mewn blwyddyn brysur yn ein lleoliad newydd ar Ffordd y Coleg. Rydym yn edrych ymlaen at gynnal pob math o weithdai a digwyddiadau yn ogystal â darparu’r cyngor gyrfaol a chyfleoedd arferol.”
Anfonwch e bost at careers@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 382071 am ragor o fanylion.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2010