Eurliw ar ei ffordd i wireddu ei breuddwyd
Mae Eurliw Hydref Lloyd Williams, 21, yn graddio o Brifysgol Bangor wythnos yma gyda gradd yn y Gyfraith gyda’r Gymraeg.
Dywedodd Eurliw, a astudiodd yng Ngholeg Meirion-Dwyfor cyn dod i Fangor, “Mae’n deimlad penigamp i fod yn graddio eleni a chael cydnabyddiaeth am ffrwyth fy llafur. Mae’r holl waith caled yn sicr wedi talu ar ei ganfed ac rwy’n edrych ymlaen at ddiwrnod arbennig fydd yn aros yn y cof am byth.
“Mae’n benllanw blynyddoedd o weithio’n ddiwyd, nid yn unig yn y Brifysgol, ond yr holl flynyddoedd o addysg blaenorol sydd wedi arwain at yrfa yn y Brifysgol. Bydd yn ddiwrnod o hel atgofion, rhannu profiadau a sgwrsio am ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Bydd pawb yn gallu ymhyfrydu yn llwyddiant ei gilydd, ac mae’n gyfle euraid i ffarwelio â’ch cyd-fyfyrwyr gan y bydd pawb, wedyn, yn diflannu i bedwar ban byd.
“Roedd y ddarpariaeth o fodiwlau a seminarau cyfrwng Cymraeg yn bwysig iawn i mi, ac mae gan Fangor lawer iawn i’w gynnig. Roeddwn hefyd wrth fy modd fy mod i’n gallu astudio’r Gymraeg law yn llaw â’r Gyfraith gan fy mod yn ymwybodol iawn fod y ddwy ysgol yn cael eu cydnabod fel rhai llwyddiannus a chyfeillgar. Heb os nac oni bai, roedd y ffaith i mi hefyd dderbyn Ysgoloriaeth Rhagoriaeth gan y Brifysgol, yn sicr yn fodd o gadarnhau fy mhenderfyniad.
“Hoffwn ddiolch yn ddiffuant iawn i staff Ysgol y Gyfraith ac Ysgol y Gymraeg am eu cyfarwyddyd, eu cefnogaeth a’u cyfeillgarwch yn ystod fy ngyrfa yn y Brifysgol.
“Drwy gydol fy amser ym Mangor rwyf wedi bod yn mynd adref i weithio yn fy swydd rhan-amser mewn gwesty. Rwyf yn gweithio yno ers dros bedair blynedd a hanner ac mae fy nghyflogwyr wedi bod yn gefnogol iawn i’m gyrfa academaidd. Rwy’n teimlo bod gweithio wrth astudio yn bwysig iawn, nid yn unig er mwyn ennill arian ond er mwyn tynnu eich meddwl oddi ar eich gwaith academaidd am ychydig oriau. Gallwch fynd yn ôl at eich gwaith gyda meddwl ffres wedyn. Mae hefyd yn gyfle i fod yn rhan o fyd gwaith a chael perspectif ar fywyd y tu allan i’r Brifysgol.
“Roeddwn yn aelod o Bwyllgor Staff a Myfyrwyr Ysgol y Gyfraith drwy gydol fy nhair blynedd ym Mangor, gan gynrychioli fy nghyfoedion a rhannu syniadau parthed sut i ddatblygu a gwella elfennau o’r adran. Yn fy mlwyddyn gyntaf, cymerais ran mewn prosiect ymryson a gynhaliwyd gan Brifysgol Aberystwyth, a hynny er mwyn ymarfer sgiliau cyfreithiol drwy gyfrwng y Gymraeg. Gan imi dderbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, fel rhan o hynny, cefais fynd am bythefnos o brofiad gwaith i swyddfa cyfreithwyr ym Mhorthmadog. Fe fwynheais y profiad hwnnw yn fawr, ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r Coleg Cymraeg am drefnu hynny.
“Yr uchafbwynt i mi yw cael llwyddiant. Mae derbyn fy ngradd yn sicrhau parhad o’m uchelgais i ddilyn gyrfa ym myd y gyfraith.
Am y dyfodol, ychwanegodd Eurliw: “Fy mreuddwyd ers pan oeddwn yn ddeg oed yw bod yn gyfreithwraig rhyw ddydd. Mae graddio o Brifysgol Bangor yn golygu fy mod i wedi cyflawni un o’r camau cyntaf er mwyn gwireddu fy mreuddwyd. Y cam nesaf i mi yw mynychu Coleg y Gyfraith yng Nghaer o fis Medi ymlaen, gan astudio cwrs LPC – Tystysgrif Ymarferydd y Gyfraith. Y gobaith wedyn yw cael y cyfle i weithio gyda chwmni cyfreithiol yng ngogledd Cymru, gan fod fy ardal a’r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i mi. Rwy’n mawr obeithio na fydd yn rhaid i mi fudo o ogledd Cymru er mwyn sicrhau swydd a cholli’r cyfle a’r pleser o gael gwasanaethu fy nghleientau yn y Saesneg a thrwy gyfrwng y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013