Galw am setliad cyflym drwy drafodaeth i anghydfod pensiwn yr USS
Mae'r anghydfod cenedlaethol presennol yn deillio o newidiadau a gynlluniwyd i'r cynllun pensiwn cenedlaethol ar gyfer staff prifysgolion, a bydd y cynigion hynny yn effeithio ar nifer o staff Prifysgol Bangor.
Mae Prifysgol Bangor wedi datgan ei bod yn awyddus i weld setliad cyflym trwy drafodaeth i'r anghydfod hwn. Meddai'r Is-ganghellor, yr Athro John G. Hughes: "Rwy'n cefnogi is-gangellorion eraill sydd wedi galw am ailagor trafodaethau'n genedlaethol a gobeithiaf y gellir datrys yr anghydfod yn fuan trwy gyfaddawd ar y ddwy ochr."
Caiff unrhyw newidiadau i'r rheolau pensiwn eu pennu ar lefel genedlaethol trwy gyfrwng Gydbwyllgor Trafod (JNC), sy'n cynnwys yr un nifer o gynrychiolwyr o Universities UK (UUK) ac o Undeb y Prifysgolion a'r Colegau (UCU).
Yn y cyfamser, mae Prifysgol Bangor yn gwneud popeth o fewn ei gallu i leihau effaith bosibl y streic ar fyfyrwyr, ac yn y cyfamser mae'r brifysgol yn parhau yn agored yn ystod y cyfnod hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2018