Gêm Bêl-droed Elusennol i godi arian at Movember
Bydd staff o Brifysgol Bangor yn cystadlu mewn gêm bêl-droed elusennol i helpu i godi arian tuag at Movember, elusen sy'n codi ymwybyddiaeth ynghylch canser y brostad, canser y ceilliau ac iechyd meddwl, a chodi arian hanfodol at hynny.
Bydd staff o ganolfan chwaraeon Maes Glas y Brifysgol yn cystadlu yn erbyn tîm o staff diogelwch ddydd Sul 24 Tachwedd yng nghae astro Maes Glas. Bydd y gêm yn dechrau am 11.00 o’r gloch ac mae croeso cynnes i bawb ddod i gefnogi'r timau.
Dywedodd Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon a Hamdden: "Mae Maes Glas yn hapus iawn i gynnal y gêm rhwng ein staff a'r tîm diogelwch. Er ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd yn ystod y dydd, rwy'n siŵr unwaith y bydd chwiban y dyfarnwr yn cael ei chwythu bydd y ddau dîm yn awyddus iawn i ymladd am fuddugoliaeth. Rwy'n siŵr y bydd tîm Maes Glas yn sicrhau y bydd eu henw da fel cartref chwaraeon ar y campws yn cael ei gadarnhau, a hyn i gyd tuag at achos da."
Mae'r ddau dîm yn ddiolchgar iawn i gwmni nwyddau hyrwyddo Sional, Llanfairfechan, am roi eu dillad iddynt.
Yn ystod mis Tachwedd bob blwyddyn, mae Movember yn gyfrifol am gael miliynau o ddynion ledled y byd i dyfu mwstas. Mae’r elusen yn herio dynion i dyfu mwstas am 30 diwrnod mis Tachwedd, a thrwy hynny newid eu golwg a chodi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud ag iechyd dynion. Mae'r ymgyrch hefyd yn ysbrydoli llawer i godi arian trwy amryw o weithgareddau llawn hwyl ar draws y wlad .
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2013