Golwg newydd i ASTUDIAETHAU AGORED@Dysgu Gydol Oes
Mae Dysgu Gydol Oes yn gwneud newidiadau i'w rhaglen Astudiaethau Agored. Rydym am glystyru'r modiwlau neu sesiynau i benawdau eang fel bod y dysgwyr yn medru cynllunio eu dewisiadau'n well ac i ni gael targedu ein marchnata yn fwy effeithiol.
Bydd ASTUDIAETHAU AGORED yn aros yn hyblyg ac eang ond o hyn allan bydd yn haws i greu llwybrau a chynnydd mwy eglur tu fewn i'r rhaglen. Bydd un clwstwr, Archwilio ein Gorffennol, yn cynnwys sesiynau cychwynnol a modiwlau ar Hanes Teulu, Hanes Llafar, Hanes merched ac Archaeoleg Gymunedol er enghraifft.
Esiampl arall yw Astudiaethau Diwylliannol Ewropeaidd lle bydd sesiynau yn cynnwys modiwlau newydd ar Sinema Gymreig ac archwilio Ewrop trwy Ffilm a Llenyddiaeth.
Rydym yn datblygu darpariaeth newydd o gwmpas 'Technolegau Defnyddiol', lle gallwn wella ar ein cymhwysedd yn ddysgwyr ac addysgwyr.
Bydd darpariaeth Gymreig gyflawn ac arbenigol yn ogystal â'r rhaglen ieithoedd modern poblogaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2015